Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 17:8-21 beibl.net 2015 (BNET)

8. Dw i wedi dweud wrthyn nhw beth ddwedaist ti wrtho i, ac maen nhw wedi derbyn y cwbl. Maen nhw'n gwybod go iawn fy mod wedi dod oddi wrthyt ti, ac yn credu mai ti sydd wedi fy anfon i.

9. Dw i'n gweddïo drostyn nhw. Dw i ddim yn gweddïo dros y byd, ond dros y rhai rwyt ti wedi eu rhoi i berthyn i mi. Dw i'n gweddïo drostyn nhw am mai dy bobl di ydyn nhw.

10. Dy bobl di ydy pawb sydd gen i, a'm pobl i ydy dy bobl di, a dw i'n cael fy anrhydeddu trwyddyn nhw.

11. Dw i ddim yn aros yn y byd ddim mwy, ond maen nhw yn dal yn y byd. Dw i'n dod atat ti. Dad Sanctaidd, cadw'r rhai wyt ti wedi eu rhoi i mi yn saff ac yn ffyddlon i ti dy hun, er mwyn iddyn nhw ddod yn un fel dŷn ni'n un.

12. Tra dw i wedi bod gyda nhw, dw i wedi eu cadw nhw'n saff ac yn ffyddlon i ti. A chafodd dim un ohonyn nhw ei golli ar wahân i'r un oedd ar ei ffordd i ddinistr, er mwyn i'r ysgrifau sanctaidd ddod yn wir.

13. “Dw i'n dod atat ti nawr, ond dw i'n dweud y pethau hyn tra dw i'n dal yn y byd er mwyn iddyn nhw gael bod yn wirioneddol hapus fel fi.

14. Dw i wedi rhoi dy neges di iddyn nhw ac mae'r byd wedi eu casáu nhw, am eu bod nhw ddim yn perthyn i'r byd fwy na dw i'n perthyn i'r byd.

15. Dw i ddim yn gweddïo ar i ti eu cymryd nhw allan o'r byd, ond ar i ti eu hamddiffyn nhw rhag yr un drwg.

16. Dyn nhw ddim yn perthyn i'r byd fwy na dw i'n perthyn i'r byd.

17. Cysegra nhw i ti dy hun drwy'r gwirionedd; mae dy neges di yn wir.

18. Dw i yn eu hanfon nhw allan i'r byd yn union fel wnest ti fy anfon i.

19. Dw i'n cysegru fy hun er eu mwyn nhw, er mwyn iddyn nhw fod wedi eu cysegru drwy'r gwirionedd.

20. “Nid dim ond drostyn nhw dw i'n gweddïo. Dw i'n gweddïo hefyd dros bawb fydd yn credu ynof fi drwy eu neges nhw;

21. dw i'n gweddïo y byddan nhw i gyd yn un, Dad, yn union fel rwyt ti a fi yn un. Dw i am iddyn nhw hefyd fod ynon ni er mwyn i'r byd gredu mai ti sydd wedi fy anfon i.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 17