Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 17:19-26 beibl.net 2015 (BNET)

19. Dw i'n cysegru fy hun er eu mwyn nhw, er mwyn iddyn nhw fod wedi eu cysegru drwy'r gwirionedd.

20. “Nid dim ond drostyn nhw dw i'n gweddïo. Dw i'n gweddïo hefyd dros bawb fydd yn credu ynof fi drwy eu neges nhw;

21. dw i'n gweddïo y byddan nhw i gyd yn un, Dad, yn union fel rwyt ti a fi yn un. Dw i am iddyn nhw hefyd fod ynon ni er mwyn i'r byd gredu mai ti sydd wedi fy anfon i.

22. Dw i wedi rhoi iddyn nhw rannu'r ysblander a roist ti i mi, er mwyn iddyn nhw fod yn un fel dŷn ni yn un:

23. Fi ynddyn nhw a ti ynof fi. Dw i am iddyn nhw gael eu dwyn i undod llawn i adael i'r byd wybod mai ti sydd wedi fy anfon i, a dy fod ti wedi eu caru nhw yn union fel rwyt wedi fy ngharu i.

24. “Dad, dw i am i'r rhai wyt ti wedi eu rhoi i mi fod gyda mi ble rydw i, iddyn nhw weld fy ysblander i – yr ysblander roist ti i mi am dy fod di wedi fy ngharu i ers cyn i'r byd gael ei greu.

25. “Dad Cyfiawn, dydy'r byd ddim yn dy nabod di, ond dw i yn dy nabod, ac mae'r rhain wedi dod i wybod mai ti sydd wedi fy anfon i.

26. Dw i wedi dangos pwy wyt ti iddyn nhw, a bydda i yn dal ati i wneud hynny, er mwyn iddyn nhw garu eraill fel rwyt ti wedi fy ngharu i, ac i mi fy hun fod ynddyn nhw.”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 17