Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 17:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ar ôl dweud hyn, edrychodd Iesu i fyny i'r nefoedd a dechrau gweddïo: “Dad, mae'r amser iawn wedi dod. Anrhydedda dy Fab, er mwyn i mi, y Mab hwnnw, ddangos dy ysblander di.

2. Rwyt wedi rhoi awdurdod i mi dros y ddynoliaeth gyfan, i mi roi bywyd tragwyddol i'r rhai roist ti i berthyn i mi.

3. Dyma beth ydy bywyd tragwyddol: iddyn nhw dy nabod di, yr unig Dduw sy'n bodoli go iawn, a Iesu y Meseia wyt ti wedi ei anfon.

4. Dw i wedi dy anrhydeddu di ar y ddaear drwy orffen y gwaith roist ti i mi.

5. Yn awr, Dad, rho i mi eto yr anrhydedd a'r ysblander oedd gen i pan oeddwn gyda ti hyd yn oed cyn i'r byd ddechrau.

6. “Dw i wedi dangos sut un wyt ti i'r rhai roist ti i mi allan o'r byd. Dy bobl di oedden nhw, a dyma ti'n eu rhoi nhw i mi, ac maen nhw wedi derbyn dy neges di.

7. Bellach maen nhw'n gwybod mai oddi wrthyt ti mae popeth wyt wedi ei roi i mi wedi dod.

8. Dw i wedi dweud wrthyn nhw beth ddwedaist ti wrtho i, ac maen nhw wedi derbyn y cwbl. Maen nhw'n gwybod go iawn fy mod wedi dod oddi wrthyt ti, ac yn credu mai ti sydd wedi fy anfon i.

9. Dw i'n gweddïo drostyn nhw. Dw i ddim yn gweddïo dros y byd, ond dros y rhai rwyt ti wedi eu rhoi i berthyn i mi. Dw i'n gweddïo drostyn nhw am mai dy bobl di ydyn nhw.

10. Dy bobl di ydy pawb sydd gen i, a'm pobl i ydy dy bobl di, a dw i'n cael fy anrhydeddu trwyddyn nhw.

11. Dw i ddim yn aros yn y byd ddim mwy, ond maen nhw yn dal yn y byd. Dw i'n dod atat ti. Dad Sanctaidd, cadw'r rhai wyt ti wedi eu rhoi i mi yn saff ac yn ffyddlon i ti dy hun, er mwyn iddyn nhw ddod yn un fel dŷn ni'n un.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 17