Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 16:8-21 beibl.net 2015 (BNET)

8. Pan ddaw, bydd yn dangos fod syniadau'r byd o bechod, cyfiawnder a barn yn anghywir:

9. o bechod am eu bod nhw ddim yn credu ynof fi;

10. o gyfiawnder am fy mod i'n mynd at y Tad, a fyddwch chi ddim yn dal i ngweld i mwyach;

11. ac o farn am fod Duw eisoes wedi condemnio Satan, tywysog y byd hwn.

12. “Mae gen i lawer mwy i'w ddweud wrthoch chi, ond mae'n ormod i chi ei gymryd ar hyn o bryd.

13. Ond pan ddaw e, sef yr Ysbryd sy'n dangos y gwir i chi, bydd yn eich arwain chi i weld y gwir i gyd. Fydd e ddim yn siarad ar ei liwt ei hun – bydd ond yn dweud beth mae'n ei glywed, a bydd yn dweud wrthoch chi beth fydd yn digwydd.

14. Bydd yn fy anrhydeddu i drwy gymryd beth dw i'n ei ddweud a'i rannu gyda chi.

15. Mae popeth sydd gan y Tad yn eiddo i mi hefyd, a dyna pam dw i'n dweud y bydd yr Ysbryd yn cymryd beth dw i'n ei ddweud a'i rannu gyda chi.

16. “Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna'n fuan iawn wedyn byddwch yn fy ngweld i eto.”

17. Dyma'i ddisgyblion yn gofyn i'w gilydd, “Beth mae'n ei olygu wrth ddweud, ‘Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna'n fuan iawn wedi hynny byddwch yn fy ngweld eto’? A beth mae ‘Am fy mod i'n mynd at y Tad’ yn ei olygu?

18. Beth ydy ystyr ‘Yn fuan iawn’? Dŷn ni ddim yn deall.”

19. Roedd Iesu'n gwybod eu bod nhw eisiau gofyn iddo am hyn, felly meddai wrthyn nhw, “Dych chi'n trafod beth dw i'n ei olygu wrth ddweud, ‘Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna'n fuan iawn wedyn byddwch yn fy ngweld eto.’

20. Credwch chi fi, Byddwch chi'n galaru ac yn crïo tra bydd y byd yn dathlu. Byddwch yn drist go iawn, ond bydd y tristwch yn troi'n llawenydd.

21. Mae gwraig mewn poen pan mae'n cael babi, ond mae hi mor llawen pan mae ei babi wedi cael ei eni mae hi'n anghofio'r poen!

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 16