Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 16:19-33 beibl.net 2015 (BNET)

19. Roedd Iesu'n gwybod eu bod nhw eisiau gofyn iddo am hyn, felly meddai wrthyn nhw, “Dych chi'n trafod beth dw i'n ei olygu wrth ddweud, ‘Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna'n fuan iawn wedyn byddwch yn fy ngweld eto.’

20. Credwch chi fi, Byddwch chi'n galaru ac yn crïo tra bydd y byd yn dathlu. Byddwch yn drist go iawn, ond bydd y tristwch yn troi'n llawenydd.

21. Mae gwraig mewn poen pan mae'n cael babi, ond mae hi mor llawen pan mae ei babi wedi cael ei eni mae hi'n anghofio'r poen!

22. Yr un fath gyda chi: Dych chi'n teimlo'n drist ar hyn o bryd. Ond bydda i yn eich gweld chi eto a byddwch chi'n dathlu, a fydd neb yn gallu dwyn eich llawenydd oddi arnoch chi.

23. Fydd dim cwestiynau gynnoch chi i'w gofyn y diwrnod hwnnw. Credwch chi fi, bydd fy Nhad yn rhoi i chi beth bynnag a ofynnwch i mi am awdurdod i'w wneud.

24. Dych chi ddim wedi gofyn am awdurdod i wneud dim hyd yn hyn. Gofynnwch a byddwch yn derbyn. Byddwch chi'n wirioneddol hapus!

25. “Dw i wedi bod yn defnyddio darluniau wrth siarad â chi hyd yn hyn, ond mae'r amser yn dod pan fydd dim angen gwneud hynny. Bydda i'n gallu siarad yn blaen gyda chi am fy Nhad.

26. Y diwrnod hwnnw byddwch yn gofyn i Dduw am fy awdurdod i. Dim fi fydd yn gofyn i'r Tad ar eich rhan chi.

27. Na, mae'r Tad ei hun yn eich caru chi am eich bod chi wedi fy ngharu i, ac am eich bod chi wedi credu fy mod wedi dod oddi wrth y Tad.

28. Dw i wedi dod i'r byd oddi wrth y Tad, a dw i ar fin gadael y byd a mynd yn ôl at y Tad.”

29. “Nawr rwyt ti'n siarad yn blaen!” meddai'r disgyblion. “Dim darluniau i'w dehongli.

30. Dŷn ni'n gweld bellach dy fod di'n gwybod pob peth. Does dim rhaid i ti ofyn i unrhyw un beth maen nhw'n ei feddwl hyd yn oed. Mae hynny'n ddigon i wneud i ni gredu dy fod di wedi dod oddi wrth Dduw.”

31. “Dych chi'n credu ydych chi?” meddai Iesu.

32. “Mae'r amser yn dod, yn wir mae yma, pan fyddwch chi'n mynd ar chwâl. Bydd pob un ohonoch chi'n mynd adre, a byddwch yn fy ngadael i ar fy mhen fy hun. Ond dw i ddim wir ar fy mhen fy hun, am fod fy Nhad gyda fi.

33. “Dw i wedi dweud y pethau hyn wrthoch chi, er mwyn i chi gael yr heddwch go iawn sydd ynof fi. Dim ond trafferthion gewch chi yn y byd hwn. Ond codwch eich calonnau, dw i wedi concro'r byd.”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 16