1. “Dw i wedi dweud hyn i gyd wrthoch chi er mwyn i chi beidio troi cefn arna i.
2. Byddwch chi'n cael eich diarddel o'r synagog. Ac mae'r amser yn dod pan bydd pobl yn meddwl eu bod nhw'n gwneud ffafr i Dduw trwy eich lladd chi.
3. Byddan nhw'n eich trin chi felly am eu bod nhw ddim wedi nabod y Tad na fi.
4. Ond dw i wedi dweud hyn i gyd wrthoch chi, wedyn pan ddaw'r amser hwnnw byddwch chi'n cofio fy mod i wedi eich rhybuddio chi. Wnes i ddim dweud hyn wrthoch chi ar y dechrau am fy mod i wedi bod gyda chi.
5. “Bellach dw i'n mynd yn ôl at Dduw, yr un anfonodd fi, a does neb ohonoch chi'n gofyn, ‘Ble rwyt ti'n mynd?’
6. Ond am fy mod wedi dweud hyn, dych chi'n llawn tristwch.
7. Ond credwch chi fi: Mae o fantais i chi fy mod i'n mynd i ffwrdd. Os wna i ddim mynd, fydd yr un sy'n sefyll gyda chi ddim yn dod; ond pan af fi, bydda i'n ei anfon atoch chi.
8. Pan ddaw, bydd yn dangos fod syniadau'r byd o bechod, cyfiawnder a barn yn anghywir:
9. o bechod am eu bod nhw ddim yn credu ynof fi;
10. o gyfiawnder am fy mod i'n mynd at y Tad, a fyddwch chi ddim yn dal i ngweld i mwyach;
11. ac o farn am fod Duw eisoes wedi condemnio Satan, tywysog y byd hwn.
12. “Mae gen i lawer mwy i'w ddweud wrthoch chi, ond mae'n ormod i chi ei gymryd ar hyn o bryd.
13. Ond pan ddaw e, sef yr Ysbryd sy'n dangos y gwir i chi, bydd yn eich arwain chi i weld y gwir i gyd. Fydd e ddim yn siarad ar ei liwt ei hun – bydd ond yn dweud beth mae'n ei glywed, a bydd yn dweud wrthoch chi beth fydd yn digwydd.
14. Bydd yn fy anrhydeddu i drwy gymryd beth dw i'n ei ddweud a'i rannu gyda chi.
15. Mae popeth sydd gan y Tad yn eiddo i mi hefyd, a dyna pam dw i'n dweud y bydd yr Ysbryd yn cymryd beth dw i'n ei ddweud a'i rannu gyda chi.
16. “Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna'n fuan iawn wedyn byddwch yn fy ngweld i eto.”
17. Dyma'i ddisgyblion yn gofyn i'w gilydd, “Beth mae'n ei olygu wrth ddweud, ‘Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna'n fuan iawn wedi hynny byddwch yn fy ngweld eto’? A beth mae ‘Am fy mod i'n mynd at y Tad’ yn ei olygu?
18. Beth ydy ystyr ‘Yn fuan iawn’? Dŷn ni ddim yn deall.”