Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 15:2-17 beibl.net 2015 (BNET)

2. Mae'n llifio i ffwrdd unrhyw gangen sydd heb ffrwyth yn tyfu arni. Ond os oes ffrwyth yn tyfu ar gangen, mae'n trin ac yn tocio'r gangen honno'n ofalus er mwyn i fwy o ffrwyth dyfu arni.

3. Dych chi wedi cael eich trin gan yr hyn dw i wedi ei ddweud wrthoch chi.

4. Arhoswch ynof fi, ac arhosa i ynoch chi. Fydd ffrwyth ddim yn tyfu ar gangen oni bai ei bod hi'n dal ar y winwydden. All eich bywydau chi ddim bod yn ffrwythlon oni bai eich bod chi wedi eich cysylltu â mi.

5. “Fi ydy'r winwydden; chi ydy'r canghennau. Os gwnewch chi aros ynof fi, a minnau ynoch chi, bydd digonedd o ffrwyth yn eich bywydau. Ond allwch chi wneud dim ar wahân i mi.

6. Os gwnewch chi ddim aros ynof fi, byddwch fel y gangen sy'n cael ei thaflu i ffwrdd ac sy'n gwywo. Mae'r canghennau hynny'n cael eu casglu a'u taflu i'r tân i'w llosgi.

7. Os arhoswch ynof fi, a dal gafael yn beth ddwedais i, gofynnwch i Dduw am unrhyw beth, a byddwch yn ei gael.

8. Bydd eich bywydau yn llawn ffrwyth. Bydd hi'n amlwg eich bod yn ddisgyblion i mi, a bydd fy Nhad yn cael ei anrhydeddu.

9. “Dw i wedi'ch caru chi yn union fel mae'r Tad wedi fy ngharu i. Arhoswch yn fy nghariad i.

10. Byddwch yn aros yn fy nghariad i drwy wneud beth dw i'n ei ddweud, fel dw i wedi bod yn ufudd i'm Tad ac wedi aros yn ei gariad e.

11. Dw i wedi dweud y pethau hyn er mwyn i chi fod yn llawen fel dw i'n llawen. Byddwch chi'n wirioneddol hapus!

12. Dyma dw i'n ei orchymyn: Carwch eich gilydd fel dw i wedi eich caru chi.

13. Y cariad mwya all unrhyw un ei ddangos ydy bod yn fodlon marw dros ei ffrindiau.

14. Dych chi'n amlwg yn ffrindiau i mi os gwnewch chi beth dw i'n ei ddweud.

15. Dw i ddim yn eich galw chi'n weision bellach. Dydy meistr ddim yn trafod ei fwriadau gyda gweision. Na, ffrindiau i mi ydych chi, achos dw i wedi rhannu gyda chi bopeth mae'r Tad wedi ei ddweud.

16. Dim chi ddewisodd fi; fi ddewisodd chi, i chi fynd allan a byw bywydau ffrwythlon – hynny ydy, yn llawn o'r ffrwyth sy'n aros. Ac i chi gael beth bynnag ofynnwch chi i'r Tad amdano gyda fy awdurdod i.

17. “Dyma dw i'n ei orchymyn: Carwch eich gilydd.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 15