Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 15:11-26 beibl.net 2015 (BNET)

11. Dw i wedi dweud y pethau hyn er mwyn i chi fod yn llawen fel dw i'n llawen. Byddwch chi'n wirioneddol hapus!

12. Dyma dw i'n ei orchymyn: Carwch eich gilydd fel dw i wedi eich caru chi.

13. Y cariad mwya all unrhyw un ei ddangos ydy bod yn fodlon marw dros ei ffrindiau.

14. Dych chi'n amlwg yn ffrindiau i mi os gwnewch chi beth dw i'n ei ddweud.

15. Dw i ddim yn eich galw chi'n weision bellach. Dydy meistr ddim yn trafod ei fwriadau gyda gweision. Na, ffrindiau i mi ydych chi, achos dw i wedi rhannu gyda chi bopeth mae'r Tad wedi ei ddweud.

16. Dim chi ddewisodd fi; fi ddewisodd chi, i chi fynd allan a byw bywydau ffrwythlon – hynny ydy, yn llawn o'r ffrwyth sy'n aros. Ac i chi gael beth bynnag ofynnwch chi i'r Tad amdano gyda fy awdurdod i.

17. “Dyma dw i'n ei orchymyn: Carwch eich gilydd.

18. Os ydy'r byd yn eich casáu chi, cofiwch bob amser ei fod wedi fy nghasáu i gyntaf.

19. Tasech chi'n perthyn i'r byd, byddai'r byd yn eich caru chi. Ond dych chi ddim yn perthyn i'r byd, achos dw i wedi eich dewis chi allan o'r byd, felly mae'r byd yn eich casáu chi.

20. Cofiwch beth ddwedais i wrthoch chi: ‘Dydy caethwas ddim uwchlaw ei feistr.’ Os ydyn nhw wedi fy erlid i, byddan nhw'n eich erlid chithau hefyd. Os ydyn nhw wedi gwneud beth dw i'n ei ddweud wrthyn nhw, byddan nhw'n gwneud beth dych chi'n ei ddweud.

21. Byddan nhw'n eich trin chi felly am eich bod chi'n gweithio i mi. Y gwir ydy, dŷn nhw ddim yn nabod Duw, yr Un sydd wedi fy anfon i.

22. Petawn i heb ddod a siarad â nhw, fydden nhw ddim yn euog o bechod. Ond bellach, does ganddyn nhw ddim esgus am eu pechod.

23. Mae pob un sy'n fy nghasáu i yn casáu Duw y Tad hefyd.

24. Petaen nhw heb fy ngweld i'n gwneud pethau wnaeth neb arall erioed, fydden nhw ddim yn euog o bechod. Ond maen nhw wedi gweld, ac maen nhw wedi fy nghasáu i a'r Tad.

25. Ond dyna oedd i fod – dyna'n union sydd wedi ei ysgrifennu yn yr ysgrifau sanctaidd: ‘Maen nhw wedi fy nghasáu i am ddim rheswm.’

26. “Mae'r un fydd yn sefyll gyda chi yn dod. Bydda i'n ei anfon atoch chi. Mae'n dod oddi wrth y Tad – yr Ysbryd sy'n dangos i chi beth sy'n wir. Bydd e'n dweud wrth bawb amdana i.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 15