Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 14:26-31 beibl.net 2015 (BNET)

26. Ond mae un fydd yn sefyll gyda chi, sef yr Ysbryd Glân mae'r Tad yn mynd i'w anfon ar fy rhan. Bydd e'n dysgu popeth i chi ac yn eich atgoffa o bopeth dw i wedi ei ddweud.

27. Heddwch – dyna dw i'n ei roi yn rhodd i chi; yr heddwch go iawn sydd gen i, a neb arall, i'w roi. Dw i ddim yn rhoi heddwch yn yr un ffordd a'r byd. Peidiwch cynhyrfu, a peidiwch bod yn llwfr.

28. “Dych chi wedi clywed fi'n dweud, ‘Dw i'n mynd i ffwrdd, a dw i'n mynd i ddod yn ôl atoch chi.’ Petaech chi wir yn fy ngharu i, byddech yn falch fy mod i'n mynd at y Tad, achos mae'r Tad yn fwy na fi.

29. Dw i wedi dweud nawr, cyn i'r peth ddigwydd, er mwyn i chi gredu pan fydd yn digwydd.

30. Does gen i ddim llawer mwy o amser i siarad â chi, am fod Satan, tywysog y byd hwn, ar ei ffordd. Ond does ganddo ddim awdurdod drosof fi.

31. Rhaid i'r byd weld fy mod i'n caru'r Tad ac yn gwneud yn union beth mae'r Tad yn ei ddweud.“Dewch, gadewch i ni fynd.”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 14