Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 14:14-27 beibl.net 2015 (BNET)

14. Cewch ofyn i mi am awdurdod i wneud unrhyw beth, ac fe'i gwnaf.

15. “Os dych chi'n fy ngharu i, byddwch yn gwneud beth dw i'n ei ddweud.

16. Bydda i'n gofyn i'r Tad, a bydd e'n rhoi un arall fydd yn sefyll gyda chi ac yn aros gyda chi am byth –

17. sef yr Ysbryd sy'n dangos y gwir i chi. Dydy'r byd ddim yn gallu ei dderbyn am fod y byd ddim yn ei weld nac yn ei nabod. Ond dych chi yn ei nabod am ei fod yn sefyll gyda chi ac am ei fod yn mynd i fod ynoch chi.

18. Wna i ddim eich gadael chi ar eich pennau eich hunain – dw i'n mynd i ddod yn ôl atoch chi.

19. Cyn hir, fydd y byd ddim yn fy ngweld i eto, ond byddwch chi'n fy ngweld i. Am fy mod i'n mynd i fyw eto, bydd gynnoch chithau fywyd.

20. Byddwch yn sylweddoli y diwrnod hwnnw fy mod i yn y Tad. A byddwch chi ynof fi a minnau ynoch chi.

21. Y rhai sy'n derbyn beth dw i'n ei ddweud ac yn gwneud beth dw i'n ddweud ydy'r rhai sy'n fy ngharu i. Bydd y Tad yn caru y rhai sy'n fy ngharu i, a bydda i yn eu caru nhw hefyd, ac yn egluro fy hun iddyn nhw.”

22. “Ond, Arglwydd,” meddai Jwdas (dim Jwdas Iscariot), “Sut dy fod di am ddangos dy hun i ni ond ddim i'r byd?”

23. Atebodd Iesu, “Bydd y rhai sy'n fy ngharu i yn gwneud beth dw i'n ddweud wrthyn nhw. Bydd fy Nhad yn eu caru nhw, a byddwn ni'n dod atyn nhw i fyw gyda nhw.

24. Fydd pwy bynnag sydd ddim yn fy ngharu ddim yn gwneud beth dw i'n ddweud. A dim fy neges i fy hun dw i'n ei rhannu, ond neges gan y Tad sydd wedi fy anfon i.

25. “Dw i wedi dweud y pethau hyn tra dw i'n dal gyda chi.

26. Ond mae un fydd yn sefyll gyda chi, sef yr Ysbryd Glân mae'r Tad yn mynd i'w anfon ar fy rhan. Bydd e'n dysgu popeth i chi ac yn eich atgoffa o bopeth dw i wedi ei ddweud.

27. Heddwch – dyna dw i'n ei roi yn rhodd i chi; yr heddwch go iawn sydd gen i, a neb arall, i'w roi. Dw i ddim yn rhoi heddwch yn yr un ffordd a'r byd. Peidiwch cynhyrfu, a peidiwch bod yn llwfr.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 14