Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 14:10-22 beibl.net 2015 (BNET)

10. Wyt ti ddim yn credu fy mod i yn y Tad, a bod y Tad ynof fi? Dw i ddim yn dweud pethau ar fy liwt fy hun. Y Tad, sy'n byw ynof fi, sydd ar waith.

11. Credwch beth dw i'n ddweud – dw i yn y Tad ac mae'r Tad ynof fi. Os ydy fy ngeiriau i ddim yn ddigon, dylech chi o leia gredu o achos y pethau dw i'n eu gwneud.

12. Credwch chi fi, bydd pwy bynnag sy'n credu ynof fi yn gwneud yr un pethau ag ydw i wedi bod yn eu gwneud. Yn wir, byddan nhw'n gwneud llawer iawn mwy, am fy mod i yn mynd at y Tad.

13. Bydda i'n gwneud beth bynnag ofynnwch chi am awdurdod i'w wneud, fel bod y Mab yn anrhydeddu'r Tad.

14. Cewch ofyn i mi am awdurdod i wneud unrhyw beth, ac fe'i gwnaf.

15. “Os dych chi'n fy ngharu i, byddwch yn gwneud beth dw i'n ei ddweud.

16. Bydda i'n gofyn i'r Tad, a bydd e'n rhoi un arall fydd yn sefyll gyda chi ac yn aros gyda chi am byth –

17. sef yr Ysbryd sy'n dangos y gwir i chi. Dydy'r byd ddim yn gallu ei dderbyn am fod y byd ddim yn ei weld nac yn ei nabod. Ond dych chi yn ei nabod am ei fod yn sefyll gyda chi ac am ei fod yn mynd i fod ynoch chi.

18. Wna i ddim eich gadael chi ar eich pennau eich hunain – dw i'n mynd i ddod yn ôl atoch chi.

19. Cyn hir, fydd y byd ddim yn fy ngweld i eto, ond byddwch chi'n fy ngweld i. Am fy mod i'n mynd i fyw eto, bydd gynnoch chithau fywyd.

20. Byddwch yn sylweddoli y diwrnod hwnnw fy mod i yn y Tad. A byddwch chi ynof fi a minnau ynoch chi.

21. Y rhai sy'n derbyn beth dw i'n ei ddweud ac yn gwneud beth dw i'n ddweud ydy'r rhai sy'n fy ngharu i. Bydd y Tad yn caru y rhai sy'n fy ngharu i, a bydda i yn eu caru nhw hefyd, ac yn egluro fy hun iddyn nhw.”

22. “Ond, Arglwydd,” meddai Jwdas (dim Jwdas Iscariot), “Sut dy fod di am ddangos dy hun i ni ond ddim i'r byd?”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 14