Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 14:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Peidiwch cynhyrfu,” meddai Iesu wrth y disgyblion “Credwch yn Nuw, a chredwch ynof fi hefyd.”

2. “Mae digon o le i fyw yn nhŷ fy Nhad; byddwn i wedi dweud wrthoch chi os oedd hi fel arall. Dw i'n mynd yno i baratoi lle ar eich cyfer chi.

3. Wedyn dw i'n mynd i ddod yn ôl, a bydda i'n mynd â chi yno gyda mi, a chewch chi aros yno gyda mi.

4. Dych chi'n gwybod y ffordd i ble dw i'n mynd.”

5. “Ond Arglwydd,” meddai Tomos “dŷn ni ddim yn gwybod ble rwyt ti'n mynd, felly sut allwn ni wybod y ffordd yno?”

6. “Fi ydy'r ffordd,” atebodd Iesu, “Fi ydy'r un gwir, y bywyd. Does neb yn gallu dod i berthynas gyda Duw y Tad ond trwof fi.

7. Os dych chi wedi dod i fy nabod i, byddwch yn nabod fy Nhad hefyd. Yn wir, dych chi yn ei nabod e bellach, ac wedi ei weld.”

8. “Arglwydd,” meddai Philip, “dangos y Tad i ni, a fydd angen dim mwy arnon ni!”

9. Atebodd Iesu: “Dw i wedi bod gyda chi i gyd ers cymaint o amser! Wyt ti'n dal ddim yn fy nabod i, Philip? Mae pwy bynnag sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad. Felly sut alli di ddweud, ‘Dangos y Tad i ni’?

10. Wyt ti ddim yn credu fy mod i yn y Tad, a bod y Tad ynof fi? Dw i ddim yn dweud pethau ar fy liwt fy hun. Y Tad, sy'n byw ynof fi, sydd ar waith.

11. Credwch beth dw i'n ddweud – dw i yn y Tad ac mae'r Tad ynof fi. Os ydy fy ngeiriau i ddim yn ddigon, dylech chi o leia gredu o achos y pethau dw i'n eu gwneud.

12. Credwch chi fi, bydd pwy bynnag sy'n credu ynof fi yn gwneud yr un pethau ag ydw i wedi bod yn eu gwneud. Yn wir, byddan nhw'n gwneud llawer iawn mwy, am fy mod i yn mynd at y Tad.

13. Bydda i'n gwneud beth bynnag ofynnwch chi am awdurdod i'w wneud, fel bod y Mab yn anrhydeddu'r Tad.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 14