Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 13:24-38 beibl.net 2015 (BNET)

24. Dyma Simon Pedr yn gwneud arwydd i hwnnw ofyn i Iesu pwy oedd yn ei olygu.

25. Felly pwysodd yn ôl at Iesu, a gofyn iddo, “Arglwydd, am bwy rwyt ti'n sôn?”

26. Atebodd Iesu, “Yr un wna i roi darn o fara iddo wedi ei drochi'n y ddysgl saws.” Yna rhoddodd ddarn o fara yn y saws, a'i basio i Jwdas, mab Simon Iscariot.

27. Yr eiliad y cymerodd Jwdas y bara, dyma Satan yn mynd i mewn iddo. “Dos ar unwaith,” meddai Iesu wrtho, “Gwna beth rwyt ti'n mynd i'w wneud.”

28. Ond doedd neb arall wrth y bwrdd yn deall beth oedd Iesu'n ei olygu.

29. Gan mai Jwdas oedd yn gofalu am y pwrs arian, roedd rhai yn tybio fod Iesu'n dweud wrtho am fynd i brynu beth oedd ei angen ar gyfer dathlu'r Ŵyl, neu i fynd i roi rhodd i bobl dlawd.

30. Aeth Jwdas allan yn syth ar ôl cymryd y bara. Roedd hi'n nos.

31. Ar ôl i Jwdas adael dwedodd Iesu,“Mae'n amser i mi, Mab y Dyn, gael fy anrhydeddu,ac i Dduw gael ei anrhydeddu drwy beth fydd yn digwydd i mi.

32. Os ydy Duw wedi ei anrhydeddu ynof fi,bydd Duw yn fy anrhydeddu i ynddo'i hun,ac yn fy anrhydeddu ar unwaith.

33. “Fy mhlant annwyl i, fydda i ddim ond gyda chi am ychydig mwy. Byddwch yn edrych amdana i, ond yn union fel dwedais i wrth yr arweinwyr Iddewig, allwch chi ddim dod i ble dw i'n mynd.

34. “Dw i'n rhoi gorchymyn newydd i chi: Carwch eich gilydd. Rhaid i chi garu'ch gilydd yn union fel dw i wedi'ch caru chi.

35. Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi'n ddilynwyr i mi, am eich bod chi'n caru'ch gilydd.”

36. “Ble rwyt ti'n mynd, Arglwydd?” gofynnodd Simon Pedr iddo.Atebodd Iesu, “Ar hyn o bryd allwch chi ddim dod i ble dw i'n mynd. Ond byddwch yn dod yno yn nes ymlaen.”

37. “Pam alla i ddim dod rwan?” meddai Pedr, “dw i'n fodlon marw drosot ti!”

38. Atebodd Iesu, “Wnei di wir farw drosof fi? Cred di fi, cyn i'r ceiliog ganu, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di'n fy nabod i!”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 13