Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 13:2-12 beibl.net 2015 (BNET)

2. Roedden nhw wrthi'n bwyta swper. Roedd y diafol eisoes wedi rhoi'r syniad i Jwdas, mab Simon Iscariot, i fradychu Iesu.

3. Gwyddai Iesu fod y Tad wedi rhoi popeth yn ei ddwylo e. Roedd wedi dod oddi wrth Dduw, ac roedd yn mynd yn ôl at Dduw.

4. Cododd oddi wrth y bwrdd, tynnu ei fantell allanol, a rhwymo tywel am ei ganol.

5. Yna tywalltodd ddŵr i fowlen a dechrau golchi traed ei ddisgyblion, a'u sychu gyda'r tywel oedd am ei ganol.

6. Pan ddaeth tro Simon Pedr, dyma Simon yn dweud, “Arglwydd, wyt ti'n mynd i olchi fy nhraed i?”

7. Atebodd Iesu, “Dwyt ti ddim yn deall beth dw i'n wneud ar hyn o bryd, ond byddi'n dod i ddeall yn nes ymlaen.”

8. Ond meddai Pedr, “Na, byth! chei di ddim golchi fy nhraed i!”“Os ga i ddim dy olchi di,” meddai Iesu, “dwyt ti ddim yn perthyn i mi.”

9. “Os felly, Arglwydd,” meddai Simon Pedr, “golcha fy nwylo a'm pen i hefyd, nid dim ond fy nhraed i!”

10. Atebodd Iesu, “Does dim rhaid i rywun sydd wedi cael bath ymolchi eto, dim ond golchi ei draed, am fod gweddill ei gorff yn lân. A dych chi'n lân – pawb ond un ohonoch chi.”

11. (Roedd yn gwybod pwy oedd yn mynd i'w fradychu; a dyna pam y dwedodd e fod un ohonyn nhw ddim yn lân.)

12. Ar ôl iddo orffen golchi eu traed nhw, gwisgodd ei fantell eto a mynd yn ôl i'w le. “Ydych chi'n deall beth dw i wedi ei wneud i chi?” meddai.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 13