Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 13:11-19 beibl.net 2015 (BNET)

11. (Roedd yn gwybod pwy oedd yn mynd i'w fradychu; a dyna pam y dwedodd e fod un ohonyn nhw ddim yn lân.)

12. Ar ôl iddo orffen golchi eu traed nhw, gwisgodd ei fantell eto a mynd yn ôl i'w le. “Ydych chi'n deall beth dw i wedi ei wneud i chi?” meddai.

13. “Dych chi'n fy ngalw i yn ‛Athro‛ neu yn ‛Arglwydd‛, ac mae hynny'n iawn, am mai dyna ydw i.

14. Felly, am fy mod i, eich Arglwydd a'ch Athro wedi golchi eich traed chi, dylech chi olchi traed eich gilydd.

15. Dw i wedi rhoi esiampl i chi er mwyn i chi wneud yr un peth i'ch gilydd.

16. Credwch chi fi, dydy caethwas ddim uwchlaw ei feistr, a dydy negesydd ddim yn bwysicach na'r un wnaeth ei anfon e.

17. Dych chi'n gwybod hyn bellach, ond gwneud y pethau yma sy'n dod â bendith.

18. “Dw i ddim yn dweud hyn amdanoch chi i gyd. Dw i'n nabod y rhai dw i wedi eu dewis yn dda. Ond mae'n rhaid i beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ddweud ddod yn wir: ‘Mae'r un fu'n bwyta gyda mi wedi troi yn fy erbyn i.’

19. “Dw i'n dweud nawr, cyn i'r peth ddigwydd, ac wedyn pan fydd yn digwydd byddwch yn credu mai fi ydy e.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 13