1. Erbyn hyn roedd hi bron yn amser dathlu Gŵyl y Pasg. Roedd Iesu'n gwybod fod yr amser wedi dod iddo adael y byd a mynd at y Tad. Roedd wedi caru y rhai oedd yn perthyn iddo, ac yn awr dangosodd iddyn nhw mor fawr oedd ei gariad.
2. Roedden nhw wrthi'n bwyta swper. Roedd y diafol eisoes wedi rhoi'r syniad i Jwdas, mab Simon Iscariot, i fradychu Iesu.
3. Gwyddai Iesu fod y Tad wedi rhoi popeth yn ei ddwylo e. Roedd wedi dod oddi wrth Dduw, ac roedd yn mynd yn ôl at Dduw.
4. Cododd oddi wrth y bwrdd, tynnu ei fantell allanol, a rhwymo tywel am ei ganol.
5. Yna tywalltodd ddŵr i fowlen a dechrau golchi traed ei ddisgyblion, a'u sychu gyda'r tywel oedd am ei ganol.
6. Pan ddaeth tro Simon Pedr, dyma Simon yn dweud, “Arglwydd, wyt ti'n mynd i olchi fy nhraed i?”
7. Atebodd Iesu, “Dwyt ti ddim yn deall beth dw i'n wneud ar hyn o bryd, ond byddi'n dod i ddeall yn nes ymlaen.”
8. Ond meddai Pedr, “Na, byth! chei di ddim golchi fy nhraed i!”“Os ga i ddim dy olchi di,” meddai Iesu, “dwyt ti ddim yn perthyn i mi.”
9. “Os felly, Arglwydd,” meddai Simon Pedr, “golcha fy nwylo a'm pen i hefyd, nid dim ond fy nhraed i!”