Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 12:8-16 beibl.net 2015 (BNET)

8. Bydd pobl dlawd o gwmpas i chi eu helpu nhw bob amser, ond fydda i ddim yma bob amser.”

9. Roedd tyrfa fawr o bobl Jwdea wedi darganfod fod Iesu yn Bethania. Dyma nhw'n mynd yno, ddim yn unig i weld Iesu, ond hefyd i weld Lasarus yr un ddaeth Iesu ag e yn ôl yn fyw.

10. Ond roedd y prif offeiriaid wedi penderfynu fod rhaid cael gwared â Lasarus hefyd,

11. am fod llawer o bobl o Jwdea wedi eu gadael nhw a dod i gredu yn Iesu o'i achos e.

12. Y diwrnod wedyn clywodd y dyrfa fawr oedd wedi dod i'r Ŵyl fod Iesu ar ei ffordd i Jerwsalem.

13. Dyma nhw'n torri canghennau o'r coed palmwydd a mynd allan i'w gyfarfod gan weiddi, “Clod iddo!” “Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi ei fendithio'n fawr!” “Ie, dyma Frenin Israel!”

14. Eisteddodd Iesu ar gefn asyn, fel mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd,

15. “Paid ag ofni, ddinas Jerwsalem. Edrych! dy frenin sy'n dod, ar gefn ebol asen.”

16. (Doedd y disgyblion ddim wedi deall arwyddocâd hyn i gyd ar y pryd. Dim ond ar ôl i Iesu gael ei anrhydeddu wnaethon nhw sylweddoli fod y pethau yma wedi eu hysgrifennu amdano, a'u bod nhw wedi digwydd iddo.)

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 12