Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 12:44-50 beibl.net 2015 (BNET)

44. Yna dyma Iesu'n cyhoeddi'n uchel, “Mae'r rhai sy'n credu ynof fi yn credu yn Nuw hefyd, yn yr un sydd wedi fy anfon i.

45. Pan maen nhw yn fy ngweld i maen nhw'n gweld yr un sydd wedi fy anfon i.

46. Dw i wedi dod fel golau i'r byd, fel bod dim rhaid i'r bobl sy'n credu ynof fi aros yn y tywyllwch.

47. “Ond am y rhai sydd wedi clywed beth dw i'n ei ddweud a gwrthod ufuddhau – dim fi sy'n eu condemnio nhw. Dod i achub y byd wnes i, dim dod i gondemnio'r byd.

48. Ond bydd pawb sy'n fy ngwrthod i ac yn gwrthod derbyn beth dw i'n ei ddweud yn cael eu barnu – bydd beth ddwedais i yn eu condemnio nhw ar y dydd olaf.

49. Dw i ddim wedi siarad ar fy liwt fy hun. Y Tad sydd wedi fy anfon i sydd wedi dweud wrtho i beth i'w ddweud, a sut i'w ddweud.

50. A dw i'n gwybod fod beth mae e'n ei ddweud yn arwain i fywyd tragwyddol. Felly dw i'n dweud yn union beth mae'r Tad yn ei ddweud wrtho i.”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 12