Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 12:35-47 beibl.net 2015 (BNET)

35. Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Bydd y golau gyda chi am ychydig mwy. Cerddwch yn y golau tra mae gyda chi, rhag i'r tywyllwch gael y llaw uchaf arnoch chi. Dydy'r rhai sy'n cerdded yn y tywyllwch ddim yn gwybod ble maen nhw'n mynd.

36. Credwch yn y golau tra mae gyda chi, er mwyn i chi ddod yn bobl sy'n olau.” Ar ôl iddo ddweud hyn, dyma Iesu'n mynd ac yn cadw o'u golwg nhw.

37. Ond er bod Iesu wedi gwneud cymaint o arwyddion gwyrthiol o'u blaenau nhw, roedden nhw'n dal i wrthod credu ynddo.

38. Dyma'n union a ddwedodd y proffwyd Eseia fyddai'n digwydd: “Arglwydd, oes rhywun wedi credu ein neges? Oes rhywun wedi gweld mor rymus ydy'r Arglwydd?”

39. Os oedd hi'n amhosib iddyn nhw gredu, mae Eseia'n dweud pam mewn man arall:

40. “Mae'r Arglwydd wedi dallu eu llygaid a chaledu eu calonnau; Fel arall, bydden nhw'n gweld a'u llygaid, yn deall go iawn, ac yn troi, a byddwn i'n eu hiacháu nhw.”

41. (Dwedodd Eseia y pethau yma am ei fod wedi gweld ysblander dwyfol Iesu. Am Iesu roedd e'n siarad.)

42. Ac eto roedd nifer o arweinwyr crefyddol, hyd yn oed, wedi dod i gredu ynddo. Ond doedden nhw ddim yn barod i gyfadde'n agored eu bod nhw'n credu am eu bod yn ofni'r Phariseaid, a ddim am gael eu diarddel o'r synagog.

43. Roedd yn well ganddyn nhw gael eu canmol gan bobl na chan Dduw.

44. Yna dyma Iesu'n cyhoeddi'n uchel, “Mae'r rhai sy'n credu ynof fi yn credu yn Nuw hefyd, yn yr un sydd wedi fy anfon i.

45. Pan maen nhw yn fy ngweld i maen nhw'n gweld yr un sydd wedi fy anfon i.

46. Dw i wedi dod fel golau i'r byd, fel bod dim rhaid i'r bobl sy'n credu ynof fi aros yn y tywyllwch.

47. “Ond am y rhai sydd wedi clywed beth dw i'n ei ddweud a gwrthod ufuddhau – dim fi sy'n eu condemnio nhw. Dod i achub y byd wnes i, dim dod i gondemnio'r byd.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 12