Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 12:3-12 beibl.net 2015 (BNET)

3. Daeth Mair i mewn gyda jar hanner litr o nard pur, oedd yn bersawr drud iawn. Tywalltodd y persawr ar draed Iesu ac wedyn sychu ei draed gyda'i gwallt. Roedd arogl y persawr i'w glywed drwy'r tŷ i gyd.

4. Ond yna dyma Jwdas Iscariot (y disgybl oedd yn mynd i fradychu Iesu yn nes ymlaen) yn protestio,

5. “Roedd y persawr yna'n werth ffortiwn! Dylid bod wedi ei werthu, a rhoi'r arian i bobl dlawd!”

6. (Ond doedd e ddim wir yn poeni am y tlodion. Beth oedd tu ôl i'w eiriau oedd y ffaith ei fod yn lleidr. Roedd Iesu a'i ddisgyblion yn rhannu un pwrs, a Jwdas oedd yn gyfrifol amdano, ond byddai'n arfer helpu ei hun i'r arian.)

7. “Gad lonydd iddi,” meddai Iesu. “Mae hi wedi cadw beth sydd ganddi ar gyfer y diwrnod pan fydda i'n cael fy nghladdu.

8. Bydd pobl dlawd o gwmpas i chi eu helpu nhw bob amser, ond fydda i ddim yma bob amser.”

9. Roedd tyrfa fawr o bobl Jwdea wedi darganfod fod Iesu yn Bethania. Dyma nhw'n mynd yno, ddim yn unig i weld Iesu, ond hefyd i weld Lasarus yr un ddaeth Iesu ag e yn ôl yn fyw.

10. Ond roedd y prif offeiriaid wedi penderfynu fod rhaid cael gwared â Lasarus hefyd,

11. am fod llawer o bobl o Jwdea wedi eu gadael nhw a dod i gredu yn Iesu o'i achos e.

12. Y diwrnod wedyn clywodd y dyrfa fawr oedd wedi dod i'r Ŵyl fod Iesu ar ei ffordd i Jerwsalem.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 12