Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 12:21-34 beibl.net 2015 (BNET)

21. Dyma nhw'n mynd at Philip (oedd yn dod o Bethsaida, Galilea), a gofyn iddo, “Syr, dŷn ni eisiau gweld Iesu.”

22. Aeth Philip i ddweud wrth Andreas, ac wedyn aeth y ddau ohonyn nhw i ddweud wrth Iesu.

23. Ymateb Iesu oedd dweud fel hyn: “Mae'r amser wedi dod i mi, Mab y Dyn, gael fy anrhydeddu.

24. Credwch chi fi, bydd hedyn o wenith yn aros fel y mae, yn ddim ond un hedyn bach, os fydd e ddim yn disgyn ar y ddaear a marw. Ond os bydd yn marw, bydd yn troi yn gnwd o hadau.

25. Bydd y sawl sy'n meddwl am neb ond ei hun yn colli ei fywyd, tra bydd y sawl sy'n rhoi ei hun yn olaf yn y byd hwn yn cael bywyd tragwyddol.

26. Os dych chi am fy ngwasanaethu i rhaid i chi ddilyn yr un llwybr â mi. Byddwch chi'n cael eich hun yn yr un sefyllfa a fi. Y rhai sy'n fy ngwasanaethu i fydd Duw, fy Nhad, yn eu hanrhydeddu.

27. “Ar hyn o bryd dw i wedi cynhyrfu. Beth alla i ddweud? O Dad, achub fi rhag y profiad ofnadwy sydd i ddod? Na! dyma pam dw i wedi dod.

28. Dad, dangos di mor wych wyt ti!” A dyma lais o'r nefoedd yn dweud, “Dw i wedi gwneud hynny, a bydda i'n gwneud eto.”

29. Roedd rhai o'r bobl oedd yno yn meddwl mai sŵn taran oedd, ac eraill yn dweud “Na, angel oedd yn siarad ag e!”

30. Ond meddai Iesu, “Er eich mwyn chi daeth y llais, dim er fy mwyn i.

31. Mae'r amser wedi dod i'r byd gael ei farnu. Bydd Satan, tywysog y byd hwn, yn cael ei daflu allan.

32. A phan ga i fy nghodi i fyny ar y groes, bydda i'n tynnu pobl o bobman ata i fy hun.”

33. (Dwedodd hyn er mwyn dangos sut oedd yn mynd i farw.)

34. “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod y Meseia yn mynd i aros am byth,” meddai'r dyrfa wrtho, “felly am beth wyt ti'n sôn pan wyt ti'n dweud fod rhaid i Fab y Dyn farw? Pwy ydy'r ‛Mab y Dyn‛ yma rwyt ti'n sôn amdano?”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 12