Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 11:49-57 beibl.net 2015 (BNET)

49. Ond dyma un ohonyn nhw, Caiaffas, oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, yn dweud fel hyn: “Dych chi mor ddwl!

50. Onid ydy'n well i un person farw dros y bobl nag i'r genedl gyfan gael ei dinistrio?”

51. (Doedd e ddim yn dweud hyn ohono'i hun. Beth ddigwyddodd oedd ei fod e, oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, wedi proffwydo y byddai Iesu'n marw dros y genedl.

52. A dim dros y genedl Iddewig yn unig, ond hefyd dros holl blant Duw ym mhobman, er mwyn eu casglu nhw at ei gilydd a'u gwneud nhw'n un.)

53. Felly o'r diwrnod hwnnw ymlaen roedden nhw yn cynllwynio i ladd Iesu.

54. Felly doedd Iesu ddim yn mynd o gwmpas yn gyhoeddus ymhlith pobl Jwdea wedi hynny. Gadawodd yr ardal a mynd i bentref o'r enw Effraim oedd wrth ymyl yr anialwch. Buodd yn aros yno gyda'i ddisgyblion.

55. Pan oedd y Pasg Iddewig yn agosáu, roedd llawer o bobl yn mynd i Jerwsalem i gadw'r ddefod o ymolchi eu hunain yn seremonïol i baratoi ar gyfer y Pasg ei hun.

56. Roedden nhw yn edrych am Iesu drwy'r adeg, ac yn sefyllian yng nghwrt y deml a gofyn i'w gilydd, “Beth dych chi'n feddwl? Dydy e ddim yn mynd i ddod i'r Ŵyl, siawns!”

57. (Roedd y prif offeiriaid a'r Phariseaid wedi gorchymyn fod unrhyw un oedd yn gwybod lle roedd Iesu i ddweud wrthyn nhw, er mwyn iddo gael ei arestio.)

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 11