Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 11:34-52 beibl.net 2015 (BNET)

34. “Ble dych chi wedi ei gladdu?” gofynnodd.“Tyrd i weld, Arglwydd,” medden nhw.

35. Roedd Iesu yn ei ddagrau.

36. “Edrychwch gymaint oedd yn ei garu e!” meddai'r bobl oedd yno.

37. Ond roedd rhai ohonyn nhw'n dweud, “Oni allai hwn, roddodd ei olwg i'r dyn dall yna, gadw Lasarus yn fyw?”

38. Roedd Iesu'n dal wedi cynhyrfu pan ddaeth at y bedd. (Ogof oedd y bedd, a charreg wedi ei gosod dros geg yr ogof.)

39. “Symudwch y garreg,” meddai.Ond dyma Martha, chwaer y dyn oedd wedi marw, yn dweud “Arglwydd, bydd yn drewi bellach; mae wedi ei gladdu ers pedwar diwrnod.”

40. Meddai Iesu wrthi, “Wnes i ddim dweud wrthot ti y byddi di'n gweld mor wych ydy Duw, dim ond i ti gredu?”

41. Felly dyma nhw'n symud y garreg. Yna edrychodd Iesu i fyny, a dweud, “Dad, diolch i ti am wrando arna i.

42. Dw i fy hun yn gwybod dy fod ti'n gwrando arna i bob amser, ond dw i'n dweud hyn er mwyn y bobl sy'n sefyll yma, iddyn nhw gredu mai ti sydd wedi fy anfon i.”

43. Ar ôl dweud hyn, dyma Iesu'n gweiddi'n uchel, “Lasarus, tyrd allan!”

44. A dyma'r dyn oedd wedi marw'n dod allan. Roedd ei freichiau a'i goesau wedi eu rhwymo gyda stribedi o liain, ac roedd cadach am ei wyneb.“Tynnwch nhw i ffwrdd” meddai Iesu, “a'i ollwng yn rhydd.”

45. Felly daeth llawer o bobl Jwdea i gredu ynddo – y rhai oedd wedi dod i ymweld â Mair, a gweld beth wnaeth Iesu.

46. Ond aeth rhai ohonyn nhw at y Phariseaid a dweud beth oedd Iesu wedi ei wneud.

47. A dyma'r prif offeiriaid a'r Phariseaid hynny yn galw cyfarfod o'r Sanhedrin Iddewig. “Pam ydyn ni ddim yn gwneud rhywbeth?” medden nhw. “Mae'r dyn yma'n gwneud llawer o arwyddion gwyrthiol.

48. Os wnawn ni adael iddo fynd yn ei flaen, bydd pawb yn credu ynddo! Bydd y Rhufeiniaid yn dod ac yn dinistrio ein teml a'n gwlad ni.”

49. Ond dyma un ohonyn nhw, Caiaffas, oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, yn dweud fel hyn: “Dych chi mor ddwl!

50. Onid ydy'n well i un person farw dros y bobl nag i'r genedl gyfan gael ei dinistrio?”

51. (Doedd e ddim yn dweud hyn ohono'i hun. Beth ddigwyddodd oedd ei fod e, oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, wedi proffwydo y byddai Iesu'n marw dros y genedl.

52. A dim dros y genedl Iddewig yn unig, ond hefyd dros holl blant Duw ym mhobman, er mwyn eu casglu nhw at ei gilydd a'u gwneud nhw'n un.)

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 11