Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 11:27-36 beibl.net 2015 (BNET)

27. “Ydw, Arglwydd,” meddai Martha wrtho, “dw i'n credu mai ti ydy'r Meseia, Mab Duw, yr un oedd i ddod i'r byd.”

28. Ar ôl iddi ddweud hyn, aeth yn ei hôl a dweud yn dawel fach wrth Mair, “Mae'r Athro yma, ac mae'n gofyn amdanat ti.”

29. Pan glywodd Mair hyn, dyma hi'n codi ar frys i fynd ato.

30. (Doedd Iesu ddim wedi cyrraedd y pentref eto, roedd yn dal yn y fan lle roedd Martha wedi ei gyfarfod.)

31. Roedd pobl o Jwdea wedi bod gyda Mair yn y tŷ yn cydymdeimlo gyda hi. Pan welon nhw hi'n codi mor sydyn i fynd allan, dyma nhw'n mynd ar ei hôl, gan feddwl ei bod hi'n mynd at y bedd i alaru.

32. Ond pan gyrhaeddodd Mair Iesu a'i weld, syrthiodd wrth ei draed a dweud, “Arglwydd, taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.”

33. Wrth ei gweld hi'n wylofain yn uchel, a'r bobl o Jwdea oedd yno yn wylofain gyda hi, cynhyrfodd Iesu drwyddo ac roedd yn ddig.

34. “Ble dych chi wedi ei gladdu?” gofynnodd.“Tyrd i weld, Arglwydd,” medden nhw.

35. Roedd Iesu yn ei ddagrau.

36. “Edrychwch gymaint oedd yn ei garu e!” meddai'r bobl oedd yno.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 11