Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 11:1-16 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd dyn o'r enw Lasarus yn sâl. Roedd yn dod o Bethania, pentref Mair a'i chwaer Martha.

2. (Mair oedd wedi tywallt persawr ar yr Arglwydd Iesu a sychu ei draed gyda'i gwallt, a'i brawd hi oedd Lasarus, oedd yn sâl yn ei wely.)

3. Dyma'r chwiorydd yn anfon neges at Iesu, “Arglwydd, mae dy ffrind annwyl di'n sâl.”

4. Pan gafodd y neges, meddai Iesu, “Dim marwolaeth fydd yn cael y gair olaf. Na, ei bwrpas ydy dangos mor wych ydy Duw. A bydd Mab Duw yn cael ei anrhydeddu drwyddo hefyd.”

5. Roedd Iesu'n hoff iawn o Martha a'i chwaer a Lasarus.

6. Ac eto, ar ôl clywed fod Lasarus yn sâl, arhosodd Iesu lle roedd e am ddau ddiwrnod arall.

7. Yna dwedodd wrth ei ddisgyblion, “Gadewch inni fynd yn ôl i Jwdea.”

8. “Ond Rabbi,” medden nhw, “roedd yr arweinwyr Iddewig yn Jwdea yn ceisio dy ladd gynnau! Wyt ti wir am fynd yn ôl yno?”

9. Atebodd Iesu, “Onid oes deuddeg awr o olau dydd? Dydy'r rhai sy'n cerdded yn ystod y dydd ddim yn baglu, am fod ganddyn nhw olau'r haul.

10. Mae rhywun yn baglu wrth gerdded yn y nos, am fod dim golau ganddo.”

11. Yna dwedodd wrthyn nhw, “Mae ein ffrind Lasarus wedi syrthio i gysgu. Dw i i'n mynd yno i'w ddeffro.”

12. “Arglwydd,” meddai'r disgyblion, “os ydy e'n cysgu, bydd yn gwella.”

13. Ond marwolaeth oedd Iesu'n ei olygu wrth ‛gwsg‛. Roedd ei ddisgyblion wedi cael y syniad ei fod yn golygu gorffwys naturiol.

14. Felly dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw'n blaen, “Mae Lasarus wedi marw,

15. a dw i'n falch fy mod i ddim yno er eich mwyn chi. Dw i eisiau i chi gredu. Gadewch inni fynd ato.”

16. Yna dyma Tomos (oedd yn cael ei alw ‛Yr Efaill‛) yn dweud wrth y disgyblion eraill, “Dewch, gadewch i ni fynd i farw gydag e!”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 11