Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 10:9-24 beibl.net 2015 (BNET)

9. Fi ydy'r giât, a'r rhai sy'n mynd i mewn trwof fi sy'n ddiogel. Byddan nhw'n mynd i mewn ac allan, ac yn dod o hyd i borfa.

10. Mae'r lleidr yn dod gyda'r bwriad o ddwyn a lladd a dinistrio. Dw i wedi dod i roi bywyd i bobl, a hwnnw'n fywyd ar ei orau.

11. “Fi ydy'r bugail da. Mae'r bugail da yn fodlon marw dros y defaid.

12. Mae'r gwas sy'n cael ei dalu i ofalu am y defaid yn rhedeg i ffwrdd pan mae'n gweld y blaidd yn dod. (Dim fe ydy'r bugail, a does ganddo ddim defaid ei hun). Mae'n gadael y defaid, ac mae'r blaidd yn ymosod ar y praidd ac yn eu gwasgaru nhw.

13. Dim ond am ei fod yn cael ei dalu mae'n edrych ar ôl y defaid, a dydy e'n poeni dim amdanyn nhw go iawn.

14. “Fi ydy'r bugail da. Dw i'n nabod fy nefaid fy hun ac maen nhw'n fy nabod i –

15. yn union fel y mae'r Tad yn fy nabod i a dw innau'n nabod y Tad. Dw i'n fodlon marw dros y defaid.

16. Mae gen i ddefaid eraill sydd ddim yn y gorlan yma. Rhaid i mi eu casglu nhw hefyd, a byddan nhw'n gwrando ar fy llais. Yna byddan nhw'n dod yn un praidd, a bydd un bugail.

17. Mae fy Nhad yn fy ngharu i am fy mod yn mynd i farw'n wirfoddol, er mwyn dod yn ôl yn fyw wedyn.

18. Does neb yn cymryd fy mywyd oddi arna i; fi fy hun sy'n dewis rhoi fy mywyd yn wirfoddol. Mae gen i'r gallu i'w roi a'r gallu i'w gymryd yn ôl eto. Mae fy Nhad wedi dweud wrtho i beth i'w wneud.”

19. Roedd beth roedd yn ei ddweud yn achosi rhaniadau eto ymhlith yr Iddewon.

20. Roedd llawer ohonyn nhw'n dweud, “Mae cythraul ynddo! Mae'n hurt bost! Pam ddylen ni wrando arno?”

21. Ond roedd pobl eraill yn dweud, “Dydy e ddim yn siarad fel rhywun wedi ei feddiannu gan gythraul. Ydy cythraul yn gallu rhoi golwg i bobl ddall?”

22. Roedd y gaeaf wedi dod, ac roedd hi'n amser dathlu Gŵyl y Cysegru yn Jerwsalem.

23. Roedd Iesu yno yng nghwrt y deml, yn cerdded o gwmpas Cyntedd Colofnog Solomon.

24. Dyma'r arweinwyr Iddewig yn casglu o'i gwmpas, a gofyn iddo, “Am faint wyt ti'n mynd i'n cadw ni'n disgwyl? Dywed wrthon ni'n blaen os mai ti ydy'r Meseia.”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 10