Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 10:28-38 beibl.net 2015 (BNET)

28. Dw i'n rhoi bywyd tragwyddol iddyn nhw, a fyddan nhw byth yn mynd i ddistryw. Does neb yn gallu eu cipio nhw oddi arna i.

29. Fy Nhad sydd wedi eu rhoi nhw i mi, ac mae e'n fwy na phawb a phopeth yn y bydysawd. Does neb yn gallu eu cipio nhw o afael fy Nhad.

30. Dw i a'r Tad yn un.”

31. Unwaith eto dyma'r arweinwyr Iddewig yn codi cerrig i'w labyddio'n farw,

32. ond meddai Iesu wrthyn nhw, “Dych chi wedi fy ngweld i'n gwneud lot fawr o bethau da – gwyrthiau'r Tad. Am ba un o'r rhain dych chi'n fy llabyddio i?”

33. “Dŷn ni ddim yn dy labyddio am wneud unrhyw beth da,” atebodd yr arweinwyr Iddewig, “ond am gablu! Am dy fod ti sydd ond yn ddynol, yn honni mai Duw wyt ti.”

34. Ond atebodd Iesu nhw, “Mae'n dweud yn eich ysgrifau sanctaidd chi, ‘Dywedais, “Duwiau ydych chi.”’

35. Dych chi ddim yn gallu diystyru'r ysgrifau sanctaidd! Felly os oedd yr arweinwyr ddwedodd Duw hynny wrthyn nhw yn ‛dduwiau‛

36. sut dych chi'n gallu dweud fy mod i'n cablu dim ond am fy mod i wedi dweud ‘Fi ydy mab Duw’? Y Tad ddewisodd fi a'm hanfon i i'r byd.

37. Os ydw i ddim yn gwneud gwaith fy Nhad peidiwch credu ynof fi.

38. Ond os dw i yn gwneud yr un fath â'm Tad, credwch yn yr hyn dw i'n ei wneud er eich bod chi ddim yn credu ynof fi. Wedyn dowch chi i wybod a deall fod y Tad ynof fi, a minnau yn y Tad.”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 10