Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 10:25-35 beibl.net 2015 (BNET)

25. “Dw i wedi dweud,” meddai Iesu, “ond dych chi'n gwrthod credu. Mae'r gwyrthiau dw i yn eu gwneud ar ran fy Nhad yn dweud y cwbl.

26. Ond dych chi ddim yn credu am eich bod chi ddim yn ddefaid i mi.

27. Mae fy nefaid i yn fy nilyn am eu bod yn nabod fy llais i, a dw i'n eu nabod nhw.

28. Dw i'n rhoi bywyd tragwyddol iddyn nhw, a fyddan nhw byth yn mynd i ddistryw. Does neb yn gallu eu cipio nhw oddi arna i.

29. Fy Nhad sydd wedi eu rhoi nhw i mi, ac mae e'n fwy na phawb a phopeth yn y bydysawd. Does neb yn gallu eu cipio nhw o afael fy Nhad.

30. Dw i a'r Tad yn un.”

31. Unwaith eto dyma'r arweinwyr Iddewig yn codi cerrig i'w labyddio'n farw,

32. ond meddai Iesu wrthyn nhw, “Dych chi wedi fy ngweld i'n gwneud lot fawr o bethau da – gwyrthiau'r Tad. Am ba un o'r rhain dych chi'n fy llabyddio i?”

33. “Dŷn ni ddim yn dy labyddio am wneud unrhyw beth da,” atebodd yr arweinwyr Iddewig, “ond am gablu! Am dy fod ti sydd ond yn ddynol, yn honni mai Duw wyt ti.”

34. Ond atebodd Iesu nhw, “Mae'n dweud yn eich ysgrifau sanctaidd chi, ‘Dywedais, “Duwiau ydych chi.”’

35. Dych chi ddim yn gallu diystyru'r ysgrifau sanctaidd! Felly os oedd yr arweinwyr ddwedodd Duw hynny wrthyn nhw yn ‛dduwiau‛

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 10