Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 10:19-27 beibl.net 2015 (BNET)

19. Roedd beth roedd yn ei ddweud yn achosi rhaniadau eto ymhlith yr Iddewon.

20. Roedd llawer ohonyn nhw'n dweud, “Mae cythraul ynddo! Mae'n hurt bost! Pam ddylen ni wrando arno?”

21. Ond roedd pobl eraill yn dweud, “Dydy e ddim yn siarad fel rhywun wedi ei feddiannu gan gythraul. Ydy cythraul yn gallu rhoi golwg i bobl ddall?”

22. Roedd y gaeaf wedi dod, ac roedd hi'n amser dathlu Gŵyl y Cysegru yn Jerwsalem.

23. Roedd Iesu yno yng nghwrt y deml, yn cerdded o gwmpas Cyntedd Colofnog Solomon.

24. Dyma'r arweinwyr Iddewig yn casglu o'i gwmpas, a gofyn iddo, “Am faint wyt ti'n mynd i'n cadw ni'n disgwyl? Dywed wrthon ni'n blaen os mai ti ydy'r Meseia.”

25. “Dw i wedi dweud,” meddai Iesu, “ond dych chi'n gwrthod credu. Mae'r gwyrthiau dw i yn eu gwneud ar ran fy Nhad yn dweud y cwbl.

26. Ond dych chi ddim yn credu am eich bod chi ddim yn ddefaid i mi.

27. Mae fy nefaid i yn fy nilyn am eu bod yn nabod fy llais i, a dw i'n eu nabod nhw.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 10