Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 10:1-16 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Credwch chi fi, lleidr ydy'r un sy'n dringo i mewn i gorlan y defaid heb fynd drwy'r giât.

2. Mae'r bugail sy'n gofalu am y defaid yn mynd i mewn drwy'r giât.

3. Mae'r un sy'n gwylio'r gorlan dros nos yn agor y giât iddo, ac mae ei ddefaid ei hun yn nabod ei lais. Mae'n galw pob un o'i ddefaid wrth eu henwau, ac yn eu harwain nhw allan.

4. Ar ôl iddo fynd â nhw i gyd allan, mae'n cerdded o'u blaenau nhw, ac mae ei ddefaid yn ei ddilyn am eu bod yn nabod ei lais.

5. Fyddan nhw byth yn dilyn rhywun dieithr. Dyn nhw ddim yn nabod lleisiau pobl ddieithr, a byddan nhw'n rhedeg i ffwrdd oddi wrthyn nhw.”

6. Dyna'r darlun ddefnyddiodd Iesu, ond doedden nhw ddim yn deall ei ystyr.

7. Felly dwedodd Iesu eto, “Credwch chi fi – fi ydy'r giât i'r defaid fynd trwyddi.

8. Lladron yn dwyn oedd pob un ddaeth o'm blaen i. Wnaeth y defaid ddim gwrando arnyn nhw.

9. Fi ydy'r giât, a'r rhai sy'n mynd i mewn trwof fi sy'n ddiogel. Byddan nhw'n mynd i mewn ac allan, ac yn dod o hyd i borfa.

10. Mae'r lleidr yn dod gyda'r bwriad o ddwyn a lladd a dinistrio. Dw i wedi dod i roi bywyd i bobl, a hwnnw'n fywyd ar ei orau.

11. “Fi ydy'r bugail da. Mae'r bugail da yn fodlon marw dros y defaid.

12. Mae'r gwas sy'n cael ei dalu i ofalu am y defaid yn rhedeg i ffwrdd pan mae'n gweld y blaidd yn dod. (Dim fe ydy'r bugail, a does ganddo ddim defaid ei hun). Mae'n gadael y defaid, ac mae'r blaidd yn ymosod ar y praidd ac yn eu gwasgaru nhw.

13. Dim ond am ei fod yn cael ei dalu mae'n edrych ar ôl y defaid, a dydy e'n poeni dim amdanyn nhw go iawn.

14. “Fi ydy'r bugail da. Dw i'n nabod fy nefaid fy hun ac maen nhw'n fy nabod i –

15. yn union fel y mae'r Tad yn fy nabod i a dw innau'n nabod y Tad. Dw i'n fodlon marw dros y defaid.

16. Mae gen i ddefaid eraill sydd ddim yn y gorlan yma. Rhaid i mi eu casglu nhw hefyd, a byddan nhw'n gwrando ar fy llais. Yna byddan nhw'n dod yn un praidd, a bydd un bugail.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 10