Hen Destament

Testament Newydd

Iago 5:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. A chi bobl gyfoethog, gwrandwch! – dylech chi fod yn crïo ac yn griddfan o achos y dioddefaint sydd o'ch blaenau.

2. Mae'ch cyfoeth chi'n pydru a'ch dillad yn cael eu difa gan wyfynod.

3. Mae'ch aur a'ch arian chi'n rhydu, a bydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chi. Cewch eich difa gan dân am gasglu cyfoeth i chi'ch hunain mewn byd sy'n dod i ben.

4. Gwrandwch! Mae'r cyflogau dych chi heb eu talu i'r gweithwyr yn gweiddi'n uchel. Mae Arglwydd y Lluoedd wedi clywed cri y rhai hynny fu'n casglu'r cynhaeaf yn eich caeau chi.

5. Dych chi wedi byw'n foethus ac wedi bod yn gwbl hunanol. Ydych! Dych chi wedi bod yn pesgi'ch hunain ar gyfer y diwrnod y byddwch chi'n mynd i'r lladd-dy!

6. Mae pobl ddiniwed sydd ddim yn gallu'ch gwrthwynebu chi wedi eu hecsbloetio a'u condemnio i farwolaeth gynnoch chi.

7. Felly, frodyr a chwiorydd annwyl, byddwch yn amyneddgar wrth ddisgwyl i'r Arglwydd ddod yn ôl. Meddyliwch am y ffermwr sy'n disgwyl yn amyneddgar am law yn yr hydref a'r gwanwyn i wneud i'r cnwd dyfu.

8. Dylech chi fod yr un mor amyneddgar, a sefyll yn gadarn, gan fod yr Arglwydd yn dod yn fuan.

9. Peidiwch grwgnach am eich gilydd, frodyr a chwiorydd, neu cewch chi'ch cosbi. Mae'r Barnwr yn dod! Mae'n sefyll y tu allan i'r drws!

10. Ystyriwch y proffwydi hynny oedd yn cyhoeddi neges Duw – dyna i chi beth ydy amynedd yn wyneb dioddefaint!

11. Fel dych chi'n gwybod, y rhai wnaeth ddal ati gafodd eu bendithio. Mae Job yn enghraifft dda o ddyn wnaeth ddal ati drwy'r cwbl, a chofiwch beth wnaeth yr Arglwydd iddo yn y diwedd. Mae tosturi a thrugaredd yr Arglwydd mor fawr!

Darllenwch bennod gyflawn Iago 5