Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5

Hen Destament

Testament Newydd

Iago 3 beibl.net 2015 (BNET)

Dofi'r tafod

1. Frodyr a chwiorydd, nid lle pawb ydy ceisio bod yn athrawon sy'n dysgu pobl eraill yn yr eglwys. Dylech sylweddoli y byddwn ni sy'n dysgu eraill yn cael ein barnu'n fwy llym.

2. Dŷn ni i gyd yn gwneud pob math o gamgymeriadau. Os oes rhywun yn gallu rheoli ei dafod, a dweud dim byd o'i le byth, dyna i chi berson perffaith! Rhywun sy'n gallu rheoli ei hun yn llwyr.

3. Dŷn ni'n rhoi ffrwyn ar geffyl i'w wneud yn ufudd i ni, a'i droi i'r cyfeiriad dŷn ni am iddo fynd.

4. A gyda llongau mawr sy'n cael eu gyrru gan wyntoedd cryfion, llyw bach iawn sydd ei angen i'r peilot eu troi nhw i ble bynnag mae'n dewis mynd.

5. Dyna i chi'r tafod! Mae'n rhan fach iawn o'r corff, ond mae'n gallu honni pethau mawr iawn! Fflam fach iawn sydd ei angen i roi coedwig enfawr ar dân.

6. A fflam felly ydy'r tafod! Mae'r tafod yn llawn drygioni, ac o blith holl rannau'r corff, hwn ydy'r un sy'n gallu llygru'r bersonoliaeth gyfan. Mae'n gallu dinistrio holl gwrs ein bywyd ni! Mae'n fflam sydd wedi ei thanio gan uffern!

7. Mae pobl yn gallu dofi pob math o anifeiliaid ac adar, ymlusgiaid a physgod,

8. ond does neb byw sy'n gallu dofi'r tafod. Mae'n ddrwg cwbl afreolus; mae'n llawn gwenwyn marwol!

9. Gallwn addoli ein Harglwydd a'n Tad nefol un funud, ac yna'r funud nesa dŷn ni'n melltithio pobl sydd wedi eu creu ar ddelw Duw!

10. Mae bendith a melltith yn llifo o'r un geg! Ddylai hi ddim bod felly, frodyr a chwiorydd!

11. Ydy dŵr glân a dŵr hallt yn tarddu o'r un ffynnon?

12. Ydy olewydd yn tyfu ar goeden ffigys, neu ffigys ar winwydden? Wrth gwrs ddim! A dydy pwll o ddŵr hallt ddim yn rhoi dŵr glân i ni chwaith!

Dau fath o ddoethineb

13. Pwy ohonoch chi sy'n meddwl ei fod yn ddoeth ac yn gall? Dylai ddangos hynny yn y ffordd mae'n ymddwyn. Mae doethineb go iawn yn gwneud daioni heb frolio am y peth.

14. Ond os ydych chi'n llawn cenfigen chwerw ac uchelgais hunanol does gynnoch chi ddim lle i frolio, am fod peth felly yn gwbl groes i'r gwirionedd.

15. Dim dyna'r math o ‛ddoethineb‛ mae Duw'n ei roi i bobl! Yn hollol i'r gwrthwyneb! – mae ‛doethineb‛ felly yn beth bydol, anysbrydol, ac yn dod o'r diafol ei hun!

16. Ble bynnag mae cenfigen ac uchelgais hunanol, byddwch chi'n dod o hyd i anhrefn a phob math o ddrygioni.

17. Ond mae'r doethineb sy'n dod oddi wrth Dduw yn y lle cyntaf yn bur. Mae hefyd yn meithrin heddwch, addfwynder, cydweithrediad, caredigrwydd a gweithredoedd da. Mae'n gwbl ddiduedd a diragrith.

18. Bydd y rhai sy'n hybu heddwch drwy hau hadau heddwch yn medi cynhaeaf o gyfiawnder.