Hen Destament

Testament Newydd

Iago 1:17-27 beibl.net 2015 (BNET)

17. Mae pob rhoi, a phob haelioni yn dod oddi wrth Dduw yn y nefoedd uchod. Fe ydy'r Tad a greodd y sêr a'r planedau, ond dydy ei oleuni e ddim yn amrywio, a dydy e byth yn taflu cysgodion tywyll.

18. Mae Duw wedi dewis rhoi bywyd newydd i ni, drwy wirionedd ei neges. Mae wedi'n dewis ni'n arbennig iddo'i hun o blith y cwbl mae wedi ei greu.

19. Gallwch fod yn hollol siŵr o'r peth, frodyr a chwiorydd.Dylai pob un ohonoch fod yn awyddus i wrando a pheidio siarad yn fyrbwyll, a gwybod sut i reoli ei dymer.

20. Dydy gwylltio ddim yn eich helpu chi i wneud beth sy'n iawn yng ngolwg Duw.

21. Felly rhaid cael gwared â phob budreddi a'r holl ddrygioni sy'n rhemp, a derbyn yn wylaidd y neges mae Duw wedi ei phlannu yn eich calonnau chi – dyna'r neges sy'n eich achub chi.

22. Gwnewch beth mae Duw'n ei ddweud, yn lle dim ond clywed y neges a gwneud dim wedyn. Twyllo'ch hunain ydy peth felly!

23. Mae rhywun sy'n clywed ond ddim yn gwneud yn debyg i ddyn yn edrych mewn drych.

24. Mae'n edrych arno'i hun, ac wedyn yn mynd i ffwrdd, ac yn anghofio sut olwg oedd arno!

25. Ond mae'r un sy'n dal ati i edrych yn fanwl ar ddysgeidiaeth berffaith y Duw sy'n ein gollwng ni'n rhydd yn wahanol. Dydy'r sawl sy'n gwneud hynny ddim yn anghofio beth mae wedi ei glywed; mae'n gwneud beth sydd ei angen. A bydd Duw yn bendithio popeth mae'n ei wneud!

26. Os ydy rhywun yn meddwl ei fod yn dduwiol ond ddim yn gallu rheoli ei dafod, mae'n twyllo'i hun – dydy crefydd rhywun felly yn dda i ddim.

27. Y math o grefydd mae Duw y Tad yn ei ystyried yn bur ac yn ddilys ydy'r grefydd sy'n gofalu am blant amddifad a gwragedd gweddwon sy'n dioddef, ac sy'n gwrthod dylanwad y byd.

Darllenwch bennod gyflawn Iago 1