Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 9:18-28 beibl.net 2015 (BNET)

18. Dyna pam roedd angen gwaed i hyd yn oed y drefn gyntaf gael ei gweithredu.

19. Ar ôl i Moses ddweud wrth y bobl beth oedd pob un o orchmynion Cyfraith Duw, defnyddiodd frigau isop wedi eu rhwymo gyda gwlân ysgarlad i daenellu dŵr a gwaed lloi a geifr ar y sgrôl o'r Gyfraith ac ar y bobl.

20. “Mae'r gwaed yma yn cadarnhau'r ymrwymiad mae Duw wedi ei wneud i chi ei gadw,” meddai wrthyn nhw.

21. Wedyn taenellodd y gwaed yr un fath ar y babell ac ar bopeth oedd yn cael ei ddefnyddio yn y seremonïau.

22. I ddweud y gwir, mae Cyfraith Moses yn dweud fod bron popeth i gael ei buro trwy gael ei daenellu â gwaed, a bod maddeuant ddim yn bosib heb i waed gael ei dywallt.

23. Roedd rhaid i'r pethau hynny i gyd gael eu puro gan waed yr aberthau. Ond dim ond copïau o'r pethau nefol ydyn nhw, ac mae angen aberthau gwell nag anifeiliaid i buro'r rheiny.

24. Aeth y Meseia i mewn i'r nefoedd ei hun, lle mae'n ymddangos o flaen Duw ar ein rhan ni. Dim i'r cysegr wedi ei godi gan bobl aeth e – gan fod hwnnw'n ddim byd ond copi o'r un nefol go iawn.

25. A wnaeth e ddim mynd i mewn i'r nefoedd lawer gwaith i offrymu ei hun (fel yr archoffeiriaid eraill oedd yn gorfod mynd â gwaed anifail i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd flwyddyn ar ôl blwyddyn).

26. Petai'n rhaid iddo wneud hynny, byddai wedi gorfod marw lawer gwaith ers i'r byd gael ei greu! Na! daeth y Meseia un waith ac am byth, yn agos at ddiwedd yr oesoedd, i ddelio gyda phechod drwy ei aberthu ei hun.

27. Yn union fel mae pawb yn mynd i farw un waith, a wynebu barn ar ôl hynny,

28. buodd y Meseia farw un waith yn aberth, a chario pechodau llawer iawn o bobl iddyn nhw gael eu maddau. A bydd yn dod yn ôl yr ail waith, dim i ddelio gyda phechod y tro hwn, ond i achub pawb sy'n disgwyl yn frwd amdano.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 9