Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 9:14-22 beibl.net 2015 (BNET)

14. Ond mae gwaed y Meseia yn cyflawni llawer iawn mwy – mae'n glanhau'r gydwybod o'r pethau sy'n arwain i farwolaeth. Felly gallwn ni wasanaethu'r Duw byw! Mae'r Meseia wedi cyflwyno ei hun yn aberth perffaith i Dduw drwy nerth yr Ysbryd tragwyddol.

15. Dyna pam mai fe ydy'r canolwr sy'n selio'r ymrwymiad newydd. Buodd farw i dalu'r pris i ollwng pobl yn rhydd o ganlyniadau'r pechodau gafodd eu cyflawni dan y drefn gyntaf – er mwyn i'r rhai sydd wedi eu galw dderbyn yr holl fendithion tragwyddol mae wedi eu haddo iddyn nhw.

16. Os ydy rhywun wedi gwneud ewyllys, mae'n rhaid profi fod y person hwnnw wedi marw cyn i neb gael dim.

17. Dydy ewyllys ddim yn cael ei gweithredu nes i'r un wnaeth yr ewyllys farw – dydy'r eiddo ddim yn cael ei rannu pan mae e'n dal yn fyw!

18. Dyna pam roedd angen gwaed i hyd yn oed y drefn gyntaf gael ei gweithredu.

19. Ar ôl i Moses ddweud wrth y bobl beth oedd pob un o orchmynion Cyfraith Duw, defnyddiodd frigau isop wedi eu rhwymo gyda gwlân ysgarlad i daenellu dŵr a gwaed lloi a geifr ar y sgrôl o'r Gyfraith ac ar y bobl.

20. “Mae'r gwaed yma yn cadarnhau'r ymrwymiad mae Duw wedi ei wneud i chi ei gadw,” meddai wrthyn nhw.

21. Wedyn taenellodd y gwaed yr un fath ar y babell ac ar bopeth oedd yn cael ei ddefnyddio yn y seremonïau.

22. I ddweud y gwir, mae Cyfraith Moses yn dweud fod bron popeth i gael ei buro trwy gael ei daenellu â gwaed, a bod maddeuant ddim yn bosib heb i waed gael ei dywallt.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 9