Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 9:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd gan yr ymrwymiad cyntaf reolau ar gyfer yr addoliad, a chysegr yn ganolfan i'r addoliad ar y ddaear.

2. Roedd dwy ystafell yn y babell. Yn yr ystafell allanol roedd y ganhwyllbren a hefyd y bwrdd gyda'r bara wedi ei gysegru arno – dyma oedd yn cael ei alw ‛Y Lle Sanctaidd‛.

3. Yna roedd llen, ac ystafell arall y tu ôl iddi, sef ‛Y Lle Mwyaf Sanctaidd‛.

4. Yn yr ystafell fewnol roedd allor yr arogldarth ac arch yr ymrwymiad (cist bren oedd wedi ei gorchuddio ag aur). Yn y gist roedd jar aur yn dal peth o'r manna o'r anialwch, hefyd ffon Aaron (sef yr un oedd wedi blaguro), a'r ddwy lechen roedd Duw wedi ysgrifennu'r Deg Gorchymyn arnyn nhw.

5. Yna uwchben y gist roedd dau greadur hardd wedi eu cerfio, a'u hadenydd yn cysgodi dros y caead – sef y man ble roedd Duw yn maddau pechodau.Ond does dim pwynt dechrau trafod hyn i gyd yn fanwl yma.

6. Gyda popeth wedi ei osod yn ei le, roedd yr offeiriaid yn mynd i mewn i'r ystafell allanol yn rheolaidd i wneud eu gwaith.

7. Ond dim ond yr archoffeiriad oedd yn mynd i mewn i'r ystafell fewnol, a hynny unwaith y flwyddyn yn unig. Ac roedd rhaid iddo fynd â gwaed gydag e, i'w gyflwyno i Dduw dros ei bechodau ei hun a hefyd y pechodau hynny roedd pobl wedi eu cyflawni heb sylweddoli eu bod nhw'n pechu.

8. Mae'r Ysbryd Glân yn dangos i ni drwy hyn bod hi ddim yn bosib mynd i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd (sef yr un nefol) tra roedd y babell gyntaf, a'r drefn mae'n ei chynrychioli, yn dal i sefyll.

9. Mae'n ddarlun sy'n dangos beth sy'n bwysig heddiw. Doedd y rhoddion a'r aberthau oedd yn cael eu cyflwyno dan yr hen drefn ddim yn gallu rhoi cydwybod glir i'r addolwr.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 9