1. Y pwynt ydy hyn: mae'r Archoffeiriad sydd gynnon ni wedi eistedd yn y sedd anrhydedd yn y nefoedd, ar yr ochr dde i'r Duw Mawr ei hun.
2. Dyna'r cysegr mae hwn yn gweini ynddo – y ganolfan addoliad go iawn sydd wedi ei chodi gan yr Arglwydd ei hun, a dim gan unrhyw berson dynol.
3. A chan fod rhaid i bob archoffeiriad gyflwyno rhoddion ac aberthau i Dduw, roedd rhaid i Iesu hefyd fod â rhywbeth ganddo i'w gyflwyno.
4. Petai'r gweini hwn yn digwydd ar y ddaear, fyddai Iesu ddim yn gallu bod yn offeiriad, am fod offeiriaid eisoes ar gael i gyflwyno'r rhoddion mae'r Gyfraith Iddewig yn eu gorchymyn.
5. Ond dim ond copi o'r ganolfan addoliad go iawn yn y nefoedd ydy'r cysegr maen nhw'n gweini ynddo. Dyna pam wnaeth Duw roi'r rhybudd hwn i Moses pan oedd yn bwriadu codi'r babell yn ganolfan addoliad: “Gwna'n siŵr dy fod yn gwneud popeth yn union fel mae yn y cynllun welaist ti ar y mynydd.”
6. Ond mae'r gwaith offeiriadol gafodd ei roi i Iesu yn llawer iawn pwysicach na'r gwaith maen nhw'n ei wneud fel offeiriaid. Ac mae'r ymrwymiad mae Iesu'n ganolwr iddo yn well na'r hen un – mae wedi ei wneud yn ‛gyfraith‛ sy'n addo pethau llawer gwell.
7. Petai'r drefn gyntaf wedi bod yn ddigonol fyddai dim angen un arall.