Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 7:3-12 beibl.net 2015 (BNET)

3. Dŷn ni ddim yn gwybod pwy oedd ei dad a'i fam, a does dim sôn am ei achau na dyddiad ei eni na'i farw. Felly, mae fel darlun o Fab Duw, sy'n aros yn offeiriad am byth.

4. Meddyliwch mor bwysig oedd Melchisedec! Rhoddodd hyd yn oed Abraham, tad ein cenedl ni, un rhan o ddeg o beth oedd wedi ei ennill yn y frwydr iddo!

5. Dŷn ni'n gwybod fod y Gyfraith Iddewig yn dweud wrth yr offeiriaid, sy'n ddisgynyddion i Lefi, gasglu un rhan o ddeg o beth sydd gan y bobl. Ond cofiwch mai casglu maen nhw gan bobl eu cenedl eu hunain – disgynyddion Abraham.

6. Doedd Melchisedec ddim yn perthyn i Lefi, ac eto rhoddodd Abraham un rhan o ddeg iddo. A Melchisedec fendithiodd Abraham, yr un oedd Duw wedi addo pethau mor fawr iddo.

7. Does dim rhaid dweud fod yr un sy'n bendithio yn fwy na'r person sy'n derbyn y fendith.

8. Yn achos yr offeiriaid Iddewig, mae'r un rhan o ddeg yn cael ei gasglu gan ddynion sy'n siŵr o farw; ond yn achos Melchisedec mae'n cael ei gasglu gan un maen nhw'n dweud sy'n fyw!

9. Gallech chi hyd yn oed ddweud fod disgynyddion Lefi (sy'n casglu'r un rhan o ddeg), wedi talu un rhan o ddeg i Melchisedec drwy Abraham.

10. Er bod Lefi ddim wedi cael ei eni pan aeth Melchisedec allan i gyfarfod Abraham, roedd yr had y cafodd ei eni ohono yno, yng nghorff ei gyndad!

11. Mae'r Gyfraith Iddewig yn dibynnu ar waith yr offeiriaid sy'n perthyn i urdd Lefi. Os oedd y drefn offeiriadol hon yn cyflawni bwriadau Duw yn berffaith pam roedd angen i offeiriad arall ddod? Pam wnaeth Duw anfon un oedd yr un fath â Melchisedec yn hytrach nag un oedd yn perthyn i urdd Lefi ac Aaron?

12. Ac os ydy'r drefn offeiriadol yn newid, rhaid i'r gyfraith newid hefyd.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 7