10. Er bod Lefi ddim wedi cael ei eni pan aeth Melchisedec allan i gyfarfod Abraham, roedd yr had y cafodd ei eni ohono yno, yng nghorff ei gyndad!
11. Mae'r Gyfraith Iddewig yn dibynnu ar waith yr offeiriaid sy'n perthyn i urdd Lefi. Os oedd y drefn offeiriadol hon yn cyflawni bwriadau Duw yn berffaith pam roedd angen i offeiriad arall ddod? Pam wnaeth Duw anfon un oedd yr un fath â Melchisedec yn hytrach nag un oedd yn perthyn i urdd Lefi ac Aaron?
12. Ac os ydy'r drefn offeiriadol yn newid, rhaid i'r gyfraith newid hefyd.
13. Mae'r un dŷn ni'n sôn amdano yn perthyn i lwyth gwahanol, a does neb o'r llwyth hwnnw wedi gwasanaethu fel offeiriad wrth yr allor erioed.
14. Mae pawb yn gwybod mai un o ddisgynyddion llwyth Jwda oedd ein Harglwydd ni, a wnaeth Moses ddim dweud fod gan y llwyth hwnnw unrhyw gysylltiad â'r offeiriadaeth!
15. Ac mae beth dŷn ni'n ei ddweud yn gliriach fyth pan ddeallwn ni fod yr offeiriad newydd yn debyg i Melchisedec.
16. Ddaeth hwn ddim yn offeiriad am fod y rheolau yn dweud hynny (am ei fod yn perthyn i lwyth arbennig). Na, ond am fod nerth y bywyd na ellir ei ddinistrio ynddo.
17. A dyna mae'r salmydd yn ei ddweud: “Rwyt ti'n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.”
18. Felly mae'r drefn gyntaf yn cael ei rhoi o'r neilltu am ei bod yn methu gwneud beth oedd ei angen.
19. Wnaeth y Gyfraith Iddewig wneud dim byd yn berffaith. Ond mae gobaith gwell wedi ei roi i ni yn ei lle. A dyna sut dŷn ni'n mynd at Dduw bellach.