6. Ac eto maen nhw wedi troi cefn arno! Maen nhw'n gyfrifol am hoelio Mab Duw ar y groes unwaith eto drwy ei wrthod, a'i wneud yn destun sbort i bobl.
7. Mae Duw yn bendithio'r ddaear drwy anfon glaw i'w mwydo'n gyson, ac mae'r tir yn rhoi cnwd da i'w ddefnyddio gan y ffermwr sy'n trin y tir.
8. Ond dydy tir gyda dim byd ond drain ac ysgall yn tyfu arno yn dda i ddim. Bydd yn cael ei gondemnio a'i losgi yn y diwedd.
9. Ond er ein bod ni'n siarad fel hyn, ffrindiau annwyl, dŷn ni'n hyderus fod pethau gwell o'ch blaen chi – bendithion sy'n dod i'r rhai sy'n cael eu hachub.
10. Dydy Duw ddim yn annheg; wnaiff e ddim anghofio beth dych chi wedi ei wneud. Dych chi wedi dangos eich cariad ato drwy helpu Cristnogion eraill. A dych chi'n dal i wneud hynny!
11. Daliwch ati i ddangos yr un brwdfrydedd, a byddwch chi'n derbyn yn llawn y cwbl dych chi'n edrych ymlaen ato.
12. Dŷn ni ddim am i chi fod yn ddiog! Dilynwch esiampl y rhai hynny sy'n credu go iawn ac yn dal ati yn amyneddgar – nhw ydy'r rhai fydd yn derbyn y cwbl mae Duw wedi ei addo.
13. Pan wnaeth Duw addewid i Abraham aeth ar ei lw y byddai'n gwneud beth oedd wedi ei addo. Rhoddodd ei gymeriad ei hun ar y lein! – doedd neb mwy iddo allu tyngu llw iddo!
14. A dyma ddwedodd e: “Dw i'n addo dy fendithio di a rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti.”