1. Felly mae angen i ni symud ymlaen o beth sy'n cael ei ddysgu am y Meseia yn y grŵp meithrin. Mae'n hen bryd i ni dyfu i fyny! Does dim rhaid mynd dros y pethau sylfaenol eto – yr angen i droi cefn ar y math o fywyd sy'n arwain i farwolaeth a dod i gredu yn Nuw;
2. y ddysgeidiaeth am fedydd; comisiynu pobl drwy osod dwylo arnyn nhw; y ffaith y bydd y rhai sydd wedi marw yn codi yn ôl yn fyw ac y bydd Duw yn barnu beth fydd yn digwydd i bobl yn dragwyddol.
3. A gyda help Duw dyna wnawn ni – symud yn ein blaenau!
4. Mae'n gwbl amhosib arwain y rhai sydd wedi troi cefn ar y Meseia yn ôl ato. Dyma'r bobl welodd oleuni'r gwirionedd unwaith. Cawson nhw brofi rhodd hael Duw, a derbyn yr Ysbryd Glân gydag eraill.
5. Cawson nhw flas ar neges Duw a nerthoedd yr oes sydd i ddod.
6. Ac eto maen nhw wedi troi cefn arno! Maen nhw'n gyfrifol am hoelio Mab Duw ar y groes unwaith eto drwy ei wrthod, a'i wneud yn destun sbort i bobl.
7. Mae Duw yn bendithio'r ddaear drwy anfon glaw i'w mwydo'n gyson, ac mae'r tir yn rhoi cnwd da i'w ddefnyddio gan y ffermwr sy'n trin y tir.
8. Ond dydy tir gyda dim byd ond drain ac ysgall yn tyfu arno yn dda i ddim. Bydd yn cael ei gondemnio a'i losgi yn y diwedd.
9. Ond er ein bod ni'n siarad fel hyn, ffrindiau annwyl, dŷn ni'n hyderus fod pethau gwell o'ch blaen chi – bendithion sy'n dod i'r rhai sy'n cael eu hachub.
10. Dydy Duw ddim yn annheg; wnaiff e ddim anghofio beth dych chi wedi ei wneud. Dych chi wedi dangos eich cariad ato drwy helpu Cristnogion eraill. A dych chi'n dal i wneud hynny!
11. Daliwch ati i ddangos yr un brwdfrydedd, a byddwch chi'n derbyn yn llawn y cwbl dych chi'n edrych ymlaen ato.