Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 5:3-14 beibl.net 2015 (BNET)

3. Dyna pam mae'n rhaid iddo gyflwyno aberthau dros ei bechodau ei hun yn ogystal â phechodau'r bobl.

4. Does neb yn gallu dewis bod yn Archoffeiriad ohono'i hun; rhaid iddo fod wedi ei alw gan Dduw, yn union yr un fath ag Aaron.

5. Wnaeth y Meseia ei hun ddim ceisio'r anrhydedd o fod yn Archoffeiriad chwaith. Duw wnaeth ei ddewis e, a dweud wrtho, “Ti ydy fy Mab i; heddiw des i yn dad i ti.”

6. Ac yn rhywle arall mae'n dweud, “Rwyt ti'n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.”

7. Pan oedd yn byw ar y ddaear, buodd Iesu'n gweddïo gan alw'n daer ac wylo wrth bledio ar Dduw am gael ei achub rhag marw. A dyma Duw'n gwrando arno am ei fod wedi ymostwng yn llwyr iddo.

8. Ond er ei fod yn Fab Duw, roedd rhaid iddo ddysgu bod yn ufudd trwy beth wnaeth e ddioddef.

9. Ac ar ôl iddo wneud popeth roedd ei angen, dyma achubiaeth dragwyddol yn tarddu ohono i bawb sy'n ufudd iddo.

10. Cafodd ei benodi gan Dduw yn archoffeiriad “yr un fath â Melchisedec.”

11. Mae cymaint y gellid ei ddweud am hyn, ond dych chi mor araf i ddysgu, ac felly mae'n anodd esbonio'r cwbl.

12. Erbyn hyn dylech fod yn gallu dysgu pobl eraill, ond mae angen i rywun eich dysgu chi eto am y pethau mwya syml yn neges Duw. Dych chi fel babis bach sydd ond yn gallu cymryd llaeth, a heb ddechrau bwyta bwyd solet!

13. Dydy'r un sy'n byw ar laeth ddim yn gwybod rhyw lawer am wneud beth sy'n iawn – mae fel plentyn bach.

14. Ond mae'r rhai sydd wedi tyfu i fyny yn cael bwyd solet, ac wedi dod i arfer gwahaniaethu rhwng y drwg a'r da.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 5