Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 5:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae pob archoffeiriad yn cael ei ddewis i wasanaethu Duw ar ran pobl eraill. Mae wedi ei benodi i gyflwyno rhoddion gan bobl i Dduw, ac i aberthu dros eu pechodau nhw.

2. Mae'n gallu bod yn sensitif wrth ddelio gyda phobl sydd ddim yn sylweddoli eu bod nhw wedi pechu ac wedi cael eu camarwain. Dyn ydy yntau hefyd, felly mae'n ymwybodol o'i wendidau ei hun.

3. Dyna pam mae'n rhaid iddo gyflwyno aberthau dros ei bechodau ei hun yn ogystal â phechodau'r bobl.

4. Does neb yn gallu dewis bod yn Archoffeiriad ohono'i hun; rhaid iddo fod wedi ei alw gan Dduw, yn union yr un fath ag Aaron.

5. Wnaeth y Meseia ei hun ddim ceisio'r anrhydedd o fod yn Archoffeiriad chwaith. Duw wnaeth ei ddewis e, a dweud wrtho, “Ti ydy fy Mab i; heddiw des i yn dad i ti.”

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 5