Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 4:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Felly tra mae'r addewid gynnon ni ein bod yn gallu mynd i'r lle sy'n saff i orffwys, gadewch i ni fod yn ofalus fod neb o'n plith ni'n mynd i fethu cyrraedd yno.

2. Mae'r newyddion da (fod lle saff i ni gael gorffwys) wedi cael ei gyhoeddi i ni hefyd, fel i'r bobl yn yr anialwch. Ond wnaeth y neges ddim gwahaniaeth iddyn nhw, am eu bod nhw ddim wedi credu pan glywon nhw.

3. Dŷn ni sydd wedi credu yn cael mynd yno. Mae Duw wedi dweud am y lleill, “Felly digiais, a dweud ar lw, ‘Chân nhw fyth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi.’” Ac eto mae ar gael ers i Dduw orffen ei waith yn creu y byd.

4. Mae wedi dweud yn rhywle am y seithfed dydd: “Ar y seithfed dydd dyma Duw yn gorffwys o'i holl waith.”

5. Yn y dyfyniad cyntaf mae Duw'n dweud, “Chân nhw fyth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi.”

6. Felly mae'r lle saff i orffwys yn dal i fodoli, i rai pobl gael mynd yno. Ond wnaeth y rhai y cafodd y newyddion da ei gyhoeddi iddyn nhw yn yr anialwch ddim cyrraedd am eu bod wedi bod yn anufudd.

7. Felly dyma Duw yn rhoi cyfle arall, a ‛heddiw‛ ydy'r cyfle hwnnw. Dwedodd hyn ganrifoedd wedyn, drwy Dafydd yn y geiriau y soniwyd amdanyn nhw'n gynharach: “Os clywch chi lais Duw heddiw, peidiwch bod yn ystyfnig.”

8. Petai Josua wedi rhoi'r lle saff oedd Duw'n ei addo iddyn nhw orffwys, fyddai dim sôn wedi bod am ddiwrnod arall.

9. Felly, mae yna ‛orffwys y seithfed dydd‛ sy'n dal i ddisgwyl pobl Dduw.

10. Mae pawb sy'n cyrraedd y lle sydd gan Dduw iddyn nhw orffwys yn cael gorffwys o'u gwaith, yn union fel gwnaeth Duw ei hun orffwys ar ôl gorffen ei waith e.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 4