Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 3:11-19 beibl.net 2015 (BNET)

11. Felly digiais, a dweud ar lw, ‘Chân nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi.’”

12. Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn anufudd ac yn troi cefn ar y Duw byw.

13. Helpwch eich gilydd bob dydd, a gwnewch hynny tra mae hi'n ‛heddiw‛. Peidiwch gadael i bechod eich twyllo a'ch gwneud yn ystyfnig.

14. Os daliwn ein gafael i'r diwedd a dal i gredu fel ar y dechrau, cawn rannu'r cwbl sydd gan y Meseia.

15. Fel dw i newydd ddweud: “Os clywch chi lais Duw heddiw, peidiwch bod yn ystyfnig fel oeddech chi adeg y gwrthryfel.”

16. A pwy oedd y rhai wnaeth wrthryfela er eu bod wedi clywed llais Duw? Onid y bobl wnaeth Moses eu harwain allan o'r Aifft?

17. A gyda pwy roedd Duw'n ddig am 40 mlynedd? Onid gyda'r rhai oedd wedi pechu? – nhw syrthiodd yn farw yn yr anialwch!

18. Ac am bwy ddwedodd Duw ar lw na chaen nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gydag e? – onid y bobl hynny oedd yn gwrthod ei ddilyn?

19. Felly dŷn ni'n gweld eu bod nhw wedi methu cyrraedd yno am eu bod nhw ddim yn credu.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 3