Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 2:6-10 beibl.net 2015 (BNET)

6. Mae rhywun wedi dweud yn rhywle: “Beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw? Pam ddylet ti ofalu am berson dynol?

7. Rwyt wedi ei wneud am ychydig yn is na'r angylion; ond yna ei goroni ag ysblander ac anrhydedd

8. a gosod popeth dan ei awdurdod.” Mae “popeth” yn golygu fod dim byd arall i Dduw ei osod dan ei awdurdod. Ond dŷn ni ddim yn gweld “popeth dan ei awdurdod” ar hyn o bryd.

9. Ond dŷn ni'n gweld ei fod yn wir am Iesu! Am ychydig amser cafodd e hefyd ei wneud yn is na'r angylion, a hynny er mwyn iddo farw dros bawb. Ac mae Iesu wedi “Ei goroni ag ysblander ac anrhydedd” am ei fod wedi marw! Mae'n dangos mor hael ydy Duw, fod Iesu wedi marw dros bob un ohonon ni.

10. Duw wnaeth greu popeth, a fe sy'n cynnal popeth, felly mae'n berffaith iawn iddo adael i lawer o feibion a merched rannu ei ysblander. Trwy i Iesu ddioddef, roedd Duw yn ei wneud e'n arweinydd perffaith i'w hachub nhw.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 2