Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 2:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Felly mae'n bwysig ein bod ni'n gwrando'n ofalus ar y neges dŷn ni wedi ei chlywed. Mae fel angor yn ein cadw ni rhag drifftio i ffwrdd gyda'r llif.

2. Roedd y neges roddodd Duw i ni drwy angylion yn gwbl ddibynadwy, ac roedd pawb oedd yn torri'r Gyfraith neu'n anufudd yn cael beth oedden nhw'n ei haeddu.

3. Felly pa obaith sydd i ni ddianc rhag cael ein cosbi os gwnawn ni ddiystyru'r neges ffantastig yma am Dduw yn achub! Cafodd ei chyhoeddi gyntaf gan yr Arglwydd Iesu ei hun. Wedyn cafodd ei rhannu gyda ni gan y bobl hynny oedd wedi clywed Iesu.

4. Ac roedd Duw yn profi fod beth roedden nhw'n ei ddweud yn wir drwy achosi i arwyddion rhyfeddol ddigwydd a phob math o wyrthiau. Fe oedd yn dewis rhoi'r Ysbryd Glân i alluogi pobl i wneud pethau fel hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 2