Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 13:2-9 beibl.net 2015 (BNET)

2. Peidiwch stopio'r arfer o roi croeso i bobl ddieithr yn eich cartrefi – mae rhai pobl wedi croesawu angylion i'w cartrefi heb yn wybod!

3. Daliwch ati i gofio'r rheiny sy'n y carchar, gan feddwl sut brofiad fyddai hi i fod yn y carchar eich hunain! Cofiwch hefyd am y rhai sy'n cael eu cam-drin, fel tasech chi'ch hunain yn dioddef yr un fath.

4. Dylai priodas gael ei barchu gan bawb, a ddylai person priod ddim cysgu gyda neb arall. Bydd Duw yn barnu pawb sy'n anfoesol ac yn cael rhyw y tu allan i briodas.

5. Peidiwch gadael i gariad at arian eich meddiannu chi! – byddwch yn fodlon gyda'r hyn sydd gynnoch chi. Wedi'r cwbl mae Duw ei hun wedi dweud, “Wna i byth eich siomi chi, na throi fy nghefn arnoch chi.”

6. Felly gallwn ni ddweud yn hyderus, “Yr Arglwydd ydy'r un sy'n fy helpu i; fydd gen i ddim ofn. Beth all pobl ei wneud i mi?”

7. Cofiwch eich arweinwyr, sef y rhai wnaeth rannu neges Duw gyda chi. Meddyliwch sut mae eu bywydau nhw wedi gwneud cymaint o ddaioni. Credwch yn yr Arglwydd yr un fath â nhw.

8. Mae Iesu y Meseia yr un fath bob amser – ddoe, heddiw ac am byth!

9. Peidiwch gadael i bob math o syniadau rhyfedd eich camarwain chi. Haelioni rhyfeddol Duw sy'n ein cynnal ni, dim y rheolau am beth sy'n iawn i'w fwyta. Dydy canolbwyntio ar bethau felly'n gwneud lles i neb!

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 13