Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 12:3-17 beibl.net 2015 (BNET)

3. Meddyliwch sut wnaeth e ddiodde'r holl wrthwynebiad gan bechaduriaid – wnewch chi wedyn ddim colli plwc a digalonni.

4. Wedi'r cwbl dych chi ddim eto wedi gorfod colli gwaed wrth wneud safiad yn erbyn pechod!

5. Ydych chi wedi anghofio anogaeth Duw i chi fel ei blant?: “Fy mhlentyn, paid diystyru disgyblaeth yr Arglwydd, na thorri dy galon pan fydd yn dy gywiro di,

6. achos mae'r Arglwydd yn disgyblu'r rhai mae'n eu caru, ac yn cosbi pob un o'i blant.”

7. Cymerwch y dioddef fel disgyblaeth. Mae Duw'n eich trin chi fel ei blant. Pwy glywodd am blentyn sydd ddim yn cael ei ddisgyblu gan ei rieni?

8. Os dych chi ddim yn cael eich disgyblu allwch chi ddim bod yn blant go iawn iddo – mae pob plentyn wedi cael ei ddisgyblu rywbryd!

9. Pan oedd ein rhieni yn ein disgyblu ni, roedden ni'n eu parchu nhw. Felly oni ddylen ni wrando fwy fyth ar ein Tad ysbrydol, i ni gael byw?

10. Roedd ein rhieni yn ein disgyblu ni dros dro fel roedden nhw'n gweld orau, ond mae disgyblaeth Duw yn siŵr o wneud lles i ni bob amser, i'n gwneud ni'n debycach iddo fe'i hun.

11. Dydy disgyblaeth byth yn bleserus ar y pryd (mae'n boenus!) – ond yn nes ymlaen dŷn ni'n gweld ei fod yn beth da. Ac mae'r rhai sydd wedi dysgu trwyddo yn dod yn bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn ac yn profi heddwch dwfn.

12. Felly peidiwch gollwng gafael! Safwch ar eich traed yn gadarn!

13. Cerddwch yn syth yn eich blaenau. Wedyn bydd y rhai sy'n gloff yn cryfhau ac yn eich dilyn yn lle syrthio ar fin y ffordd.

14. Gwnewch eich gorau glas i fyw mewn perthynas dda gyda phawb, ac i fyw bywydau glân a sanctaidd. Dim ond y rhai sy'n sanctaidd fydd yn cael gweld yr Arglwydd.

15. Gwyliwch bod neb ohonoch chi'n colli gafael ar haelioni rhyfeddol Duw. Os dych chi'n gadael i wreiddyn chwerw dyfu yn eich plith chi, gallai hynny greu problemau ag amharu ar lawer o bobl yn yr eglwys.

16. Gwyliwch rhag i rywun wrthgilio a throi'n annuwiol – fel Esau yn gwerthu popeth am bryd o fwyd!

17. Collodd y cwbl oedd ganddo hawl i'w dderbyn fel y mab hynaf. Wedyn, pan oedd eisiau i'w dad ei fendithio, cafodd ei wrthod. Roedd hi'n rhy hwyr iddo newid ei feddwl, er iddo grefu a chrefu yn ei ddagrau.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 12