Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 12:12-29 beibl.net 2015 (BNET)

12. Felly peidiwch gollwng gafael! Safwch ar eich traed yn gadarn!

13. Cerddwch yn syth yn eich blaenau. Wedyn bydd y rhai sy'n gloff yn cryfhau ac yn eich dilyn yn lle syrthio ar fin y ffordd.

14. Gwnewch eich gorau glas i fyw mewn perthynas dda gyda phawb, ac i fyw bywydau glân a sanctaidd. Dim ond y rhai sy'n sanctaidd fydd yn cael gweld yr Arglwydd.

15. Gwyliwch bod neb ohonoch chi'n colli gafael ar haelioni rhyfeddol Duw. Os dych chi'n gadael i wreiddyn chwerw dyfu yn eich plith chi, gallai hynny greu problemau ag amharu ar lawer o bobl yn yr eglwys.

16. Gwyliwch rhag i rywun wrthgilio a throi'n annuwiol – fel Esau yn gwerthu popeth am bryd o fwyd!

17. Collodd y cwbl oedd ganddo hawl i'w dderbyn fel y mab hynaf. Wedyn, pan oedd eisiau i'w dad ei fendithio, cafodd ei wrthod. Roedd hi'n rhy hwyr iddo newid ei feddwl, er iddo grefu a chrefu yn ei ddagrau.

18. Yn wahanol i bobl Israel, dych chi ddim wedi dod at bethau y gallwch eu teimlo – mynydd gyda thân yn llosgi arno, tywyllwch, caddug a storm wyllt.

19. Does dim sŵn utgorn, na llais i'ch dychryn chi, fel llais Duw pan oedd yn siarad yn Sinai. Roedd y bobl yn crefu ar i Dduw stopio siarad yn uniongyrchol â nhw.

20. Roedd y gorchymyn yn ormod iddyn nhw ei oddef: “Os bydd hyd yn oed anifail yn cyffwrdd y mynydd rhaid ei ladd drwy daflu cerrig ato nes iddo farw.”

21. Roedd y cwbl mor ofnadwy o ddychrynllyd nes i Moses ei hun ddweud, “Dw i'n crynu drwyddo i mewn ofn.”

22. Na! At fynydd Seion dych chi wedi dod – sef at ddinas y Duw byw! Dyma'r Jerwsalem nefol! Yma mae miloedd ar filoedd o angylion wedi dod at ei gilydd i addoli a dathlu.

23. Yma mae'r bobl hynny sydd â'u henwau wedi eu cofrestru yn y nefoedd – sef y rhai sydd i dderbyn y bendithion, fel y ‛mab hynaf‛. Yma hefyd mae Duw, Barnwr pawb. Yma mae'r bobl gyfiawn hynny fuodd farw, a sydd bellach wedi eu perffeithio.

24. Yma hefyd mae Iesu, y canolwr wnaeth selio'r ymrwymiad newydd. Yma mae ei waed wedi ei daenellu – y gwaed sy'n dweud rhywbeth llawer mwy grymus na gwaed Abel.

25. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwrando'n ofalus ar Dduw, yr un sy'n siarad â chi. Os wnaeth pobl Israel ddim dianc pan wrthodon nhw wrando ar Moses, yr un o'r ddaear oedd yn eu rhybuddio nhw, pa obaith sydd i ni os ydyn ni'n troi'n cefnau ar Iesu, yr Un o'r nefoedd sydd wedi'n rhybuddio ni!

26. Wrth fynydd Sinai roedd llais Duw yn ysgwyd y ddaear, ond nawr mae wedi dweud: “Unwaith eto dw i'n mynd i ysgwyd nid yn unig y ddaear, ond y nefoedd hefyd.”

27. Mae'r geiriau “unwaith eto” yn dangos fod y pethau fydd yn cael eu hysgwyd – sy'n bethau wedi eu creu – i gael eu symud. Dim ond y pethau sydd ddim yn gallu cael eu hysgwyd fydd yn aros.

28. A dyna sut deyrnas dŷn ni'n ei derbyn! – un sydd ddim yn gallu cael ei hysgwyd. Felly gadewch i ni fod yn ddiolchgar, ac addoli ein Duw yn y ffordd ddylen ni – gyda pharch a rhyfeddod, am mai

29. “Tân sy'n difa ydy Duw.”

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 12